Gwisgo
Mae ein dillad yn rhan bwysig o'n personoliaeth. Mae galluogi rhywun sydd â gorffwylledd i ddewis beth mae'n ei wisgo a chadw ei steil arbennig o wisgo yn fodd i'w helpu i gadw ei hunaniaeth. Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, mae'n bosibl y bydd ar y person angen mwy o gymorth i wisgo. Dyma ychydig o awgrymiadau.
Mae gwisgo'n weithgaredd personol a phreifat iawn i'r rhan fwyaf ohonom ac yn un lle'r ydym wedi arfer gwneud ein penderfyniadau ein hunain. Os oes angen cymorth ar berson sydd â gorffwylledd, dylid cynnig hynny mewn modd tringar a sensitif er mwyn ei alluogi i ddewis drosto'i hun mor hir ag y gall. Mae'n bwysig caniatáu digon o amser os ydych yn helpu rhywun i wisgo amdano fel nad yw'r un ohonoch yn teimlo'ch bod yn cael eich brysio. Cofiwch y bydd person â gorffwylledd yn cymryd mwy o amser i brosesu gwybodaeth nag yr arferai ac y bydd hyn yn effeithio ar ei allu i ddewis. Ceisiwch droi hyn yn gyfle i sôn am beth yr ydych yn ei wneud ac unrhyw beth arall a allai fod o ddiddordeb. Os gallwch wneud gwisgo'n weithgaredd pleserus, mae'r person sydd â gorffwylledd yn fwy tebygol o deimlo'n esmwyth a hyderus.
Hybu annibyniaeth
Rhowch anogaeth i'r person aros yn annibynnol a gwisgo amdano'i hun mor hir ag y gall. Efallai y gellir ei helpu drwy rai o'r ffyrdd canlynol:
- Gosod dillad yn y drefn y bydd y person yn eu gwisgo.
- Mynd â dillad budr o'r ystafell. Bydd hyn yn fodd i atal y person rhag gwisgo dillad budr.
- Atgoffa'r person yn sensitif pa ddilledyn y dylai ei roi nesaf neu estyn y dillad priodol iddo yn ôl yr angen.
- Pan fo'r person wedi drysu'n waeth, rhoi cyfarwyddiadau un ar y tro, fel: 'Nawr, rho dy fraich yn y llawes...'
- Bod yn dringar os yw'r person yn gwneud camgymeriad - er enghraifft, os bydd yn gwisgo rhywbeth o chwith. Ar y llaw arall, mae'n bosibl y gallai'r ddau ohonoch chwerthin yn braf am rywbeth fel hyn.
- Os yw'r person sydd â gorffwylledd yn byw ar ei ben ei hun, gallai fod o gymorth labelu droriau lle y cedwir eitemau arbennig o ddillad, neu roi gwisgoedd cyflawn gyda'i gilydd mewn ffordd benodol.
Awgrymiadau cyffredinol
Pan yw'r person yn gwisgo amdano:
- Gofalwch fod yr ystafell yn gynnes.
- Ceisiwch annog y person i ddefnyddio'r toiled cyn gwisgo amdano.
- Ceisiwch gadw at y drefn y mae'r person wedi arfer â hi. Er enghraifft, gallai fod yn well ganddo roi ei holl ddillad isaf yn gyntaf, neu efallai ei fod yn well ganddo roi dillad am ei hanner uchaf i gyd ac wedyn ei hanner isaf.
- Os yw'r person yn gwrthod eich ymdrechion i'w helpu, gallai fod yn well gadael iddo am ychydig yn hytrach na pheri cynnwrf a gofid o bosibl. Efallai y bydd yn fwy parod os rhowch gynnig arni ychydig wedyn.
- Mae'n bosibl na fydd y person bellach yn gallu dweud wrthych a yw'n rhy boeth neu'n rhy oer. Gallai sawl haen o ddillad tenau fod yn well nag un haen dew. Wedyn gallwch awgrymu tynnu un haen os yw'n mynd yn rhy boeth.
Dewis Lle bynnag y bo modd, gofynnwch i'r person beth a garai ei wisgo. Mae ar bobl sydd â gorffwylledd angen yr urddas o gael dewis yr hyn a wisgant. Fodd bynnag, gallai gormod o ddewis beri dryswch. Mae'n debyg ei bod yn well cynnig awgrymiadau un ar y tro. Os yw'r person yn byw ar ei ben ei hun, a llawer o ddillad ganddo, dewiswch y rhai y mae'n fwyaf tebygol o'u gwisgo a'u rhoi mewn lle hawdd ei gyrraedd. Bydd hynny'n ei gwneud yn haws i'r person ddewis.
Prynu dillad
- Os ydych yn prynu dillad i'r person sydd â gorffwylledd, gwnewch eich gorau glas i'w gael gyda chi, fel y gallwch ddewis y steil a'r lliwiau sydd orau ganddo.
- Gwiriwch ei faint. Efallai y bydd wedi colli neu ennill pwysau heb ichi syleddoli hynny.
- Chwiliwch am ddillad y gellir eu golchi mewn peiriant ac nad oes angen llawer o waith smwddio arnynt. Bydd hyn yn arbed amser.
- Chwiliwch am ddillad y mae'n hawdd i'r person eu gwisgo a'u tynnu, yn enwedig os yw'n byw ar ei ben ei hun - er enghraifft, dillad â thyllau gwddw mawr a ffasninau ar y tu blaen neu ddim ffasninau o gwbl.
- Os ydych yn gofalu am fenyw, bydd bra sy'n agor yn y blaen yn haws iddi hi ac i chi. Peidiwch â gadael iddi fynd heb fra oherwydd gallai hynny beri anghysur a dolur. Ni ddylid defnyddio 'sanau sy'n eu dal eu hunain fel arfer gan fod y rhain weithiau'n achosi problemau ynghylch cylchrediad y gwaed.
- Yn achos dynion, gallai trowsus isaf cwta fod yn haws na thrôns neu drafers fforchog.
- Gallai fod yn anodd i rywun â gorffwylledd ymdopi ag esgidiau â chareiau. Gallai esgidiau digarrai sy'n ffitio'n dda fod o gymorth i'r person aros yn annibynnol ychydig yn hwy.
- Ni ddylid gwisgo sliperi am fwy nag ychydig oriau gan nad ydynt yn cynnal y traed yn ddigonol.
Addasiadau Gallai fod yn bosibl ichi addasu rhai dillad i'w gwneud yn haws eu gwisgo a'u tynnu.
- Mae sipiau hwy yn gymorth bob amser. Mae ffasninau felcro, os yw'r person yn gallu dechrau arfer â hwy, yn haws na botymau neu fachau a dolenni.
- Weithiau gallwch roi lastig yn lle careiau.
Newid dillad Gallai rhywun fod yn amharod i dynnu amdano hyd yn oed pan yw'n mynd i'w wely neu gallai wrthod newid ei ddillad. Mae'n bosibl y bydd raid ichi ddefnyddio amryw o strategaethau i'w berswadio. Er enghraifft, gallai fod o gymorth symud dillad budr a rhoi rhai glân yn eu lle pan yw'n ymolchi neu'n cael bath neu gawod. Gallech ei berswadio i newid am fod rhywun yn ymweld. Neu gallech ddweud y byddech yn hoffi ei weld yn gwisgo rhywbeth newydd. Ceisiwch sicrhau y bydd y person yn newid ei ddillad yn aml heb beri gofid iddo.
Dillad rhyfedd
Ar yr amod nad yw hynny'n gwneud niwed, mae'n debyg ei bod yn well derbyn dillad rhyfedd neu ddillad anghydnaws na chael gwrthdaro. Os yw rhywun yn benderfynol o wisgo het yn ei wely, er enghraifft, neu gôt drwm yn yr haf, ceisiwch barchu ei ddewis, lle y bo modd.
Agweddau eraill ar ymbaratoi neu ymbincio
Helpwch y person â'i wallt ar ôl iddo wisgo amdano. Efallai y bydd benyw'n hoff o golur, os yw wedi arfer â hynny, neu ychydig o bersawr. Os yw'n hoff o wisgo broetsis neu fwclis, mae hyn yn rhoi cyfle arall iddi wneud dewis. Os yw'n mwynhau cael peintio ei hewinedd, gallech wneud hynny rywdro yn ystod y dydd.
Canmol
Mae helpu person sydd â gorffwylledd i edrych yn dda yn ffordd bwysig o gynnal ei hyder. Mae hefyd yn wir fod dieithriaid yn barnu rhywun yn ôl ei olwg ac mae hyn yn bwysig os yw rhywun â gorffwylledd. Canmolwch y person ar ei ymddangosiad ac anogwch ef i ymfalchïo yn ei olwg.
Carer's advice sheet 510
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS