Alzheimer's Society
 

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Ymddygiad ymosodol

Os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd, gallech weld ei bod yn ymddangos weithiau ei fod yn ymddwyn yn ymosodol. Gallai siarad yn sarhaus neu'n fygythiol, er enghraifft, neu gicio neu binsio, neu estyn ergyd at bobl neu bethau. Os ceir ymddygiad o'r fath rydych yn debygol o deimlo gofid a phryder ynghylch y ffordd orau i ddygymod. Dyma ychydig o awgrymiadau.

Gall person â gorffwylledd ymateb mewn modd sy'n ymddangos yn ymosodol os teimla ofn neu gywilydd, neu rwystredigaeth am nad yw'n gallu deall eraill neu gael eraill i'w ddeall.

Gall rhywun fynd yn ymosodol hefyd os yw ei bwyll a'i hunanreolaeth wedi'u herydu gan orffwylledd. Efallai nad yw bellach yn cael ei gyfyngu gan yr atalfeydd a ddysgodd yn blentyn ifanc a'i fod wedi anghofio sut i ymddwyn yn iawn.

Mae ymddygiad ymosodol yn ymddangos weithiau fel ffurf ar orymateb. Gallai'r person weiddi neu sgrechian neu gynhyrfu'n fawr o ganlyniad i rywbeth sy'n ymddangos yn siom neu'n feirniadaeth ddibwys iawn.

Mae unrhyw ffurf ar ymosodedd yn peri gofid ond mae'n bwysig cofio nad yw'r person yn ymosodol o fwriad. Mae'n debyg y bydd yn anghofio'r digwyddiad yn fuan iawn, er ei bod yn bosibl y bydd yr emosiwn a achosodd iddo ymddwyn felly yn parhau. Efallai y byddwch chi'n hwy'n anghofio'r digwyddiad na'r person â gorffwylledd.

Pethau sy'n symbylu ymosodedd

Os edrychwch yn ofalus ar y sefyllfaoedd lle mae'r person yn mynd yn ymosodol a'r digwyddiadau sy'n arwain at y ffrwydrad, efallai y byddwch yn gallu gweld beth sy'n ei symbylu a deall rhywfaint o'r hyn a allai fod yn ei boeni. Wrth gwrs, nid oes modd dadansoddi sefyllfa o'r fath nes bydd wedi gorffen. Ond, ar ôl i wres y funud fynd heibio, efallai y byddwch yn gallu meddwl am yr hyn a ddigwyddodd a pham.

Os yw'n ymddangos nad oes patrwm i'r ymddygiad a'i fod yn mynd yn anodd iawn ei reoli, ceisiwch gyngor proffesiynol.

Rhai o'r rhesymau i berson â gorffwylledd ymddwyn yn ymosodol yw sefyllfaoedd lle:

  • Teimla'n rhwystredig, o dan bwysau neu'n llawn cywilydd am nad yw bellach yn gallu ymdopi â galwadau bywyd bob dydd. Mae angen mwy o amser i berson â gorffwylledd brosesu gwybodaeth ac ymateb i sefyllfa - mewn gair neu weithred. Mae'n beth cyffredin felly iddo deimlo ei fod dan bwysau.Teimla fod ei annibyniaeth a'i breifatrwydd o dan fygythiad am ei fod yn gorfod derbyn cymorth gydag arferion personol fel ymolchi, gwisgo neu fynd i'r toiled. Mae'r rhain yn feysydd preifat ers plentyndod. Nid yw'n syndod fod y sefyllfaoedd hyn yn dod i beri straen arbennig.
  • Teimla ei fod yn cael ei farnu neu'i feirniadu am ei fod wedi anghofio rhywbeth neu wedi gwneud camgymeriad wrth gyflawni tasg bob dydd.
  • Teimla'n ddryslyd neu'n ofnus am fod gormod o sŷn neu ormod o bobl o'i gwmpas neu oherwydd newid mewn trefn arferol. Gallai'r holl bethau hyn fod yn anodd i'r person â gorffwylledd eu rheoli.

Mae hefyd yn bosibl y bydd y person yn ymateb yn ymosodol mewn sefyllfaoedd lle:

  • Teimla'n bryderus neu dan fygythiad am nad yw bellach yn gallu adnabod rhai lleoedd neu bobl. Gall gredu ei fod yn y lle anghywir neu fod perthynas iddo yn ddieithryn sydd wedi torri i mewn i'w gartref.
  • Teimla'n ofnus oherwydd sŵn sydyn, lleisiau miniog, symudiadau sydyn neu rywun yn dod ato'n ddirybudd o'r tu cefn iddo.
  • Teimla'n anghyfforddus, mewn poen, yn ddiflas neu lle mae syched arno.

Camau ataliol

Os na allwch ddarganfod beth a allai fod yn peri gofid i'r person sydd â gorffwylledd, mae'n bosibl y byddwch yn gallu ei gysuro neu efallai y gallwch ddarganfod ffyrdd o leihau'r gofid a achosir mewn sefyllfaoedd. Ceisiwch gael cyngor gan ofalwyr eraill neu weithwyr proffesiynol. Os yw'n briodol:

  • Peidiwch â rhoi cymaint o alwadau ar y person os yw'n ymddangos nad yw'n ymdopi, a sicrhewch fod trefn hamddenol a di-straen i'w dilyn.
  • Eglurwch bethau, lle bynnag y gallwch, yn dawel ac mewn brawddegau syml, gan ganiatáu mwy o amser i'r person ymateb nag y byddai arno'i angen cynt.
  • Dyfeisiwch ffyrdd tringar o gynnig cymorth heb ymddangos eich bod yn cymryd yr awenau. Rhowch arweiniad neu awgrym i'r person a rhannwch dasgau'n gamau hawdd eu rheoli fel y gall wneud cymaint ag y bo modd drosto'i hun.
  • Ceisiwch beidio â beirniadu. Os ydych yn teimlo'n flin eich tymer, celwch hynny. Ceisiwch osgoi sefyllfaoedd lle y mae'r person yn rhwym o fethu. Canmolwch unrhyw beth a gyflawna a chanolbwyntiwch ar y pethau y mae'r person yn gallu eu gwneud o hyd yn hytrach na'r pethau sydd bellach yn amhosibl.

Hefyd:

  • Cadwch olwg am unrhyw arwyddion i'ch rhybuddio fel ymddygiad pryderus neu gynhyrfus neu aflonyddwch a chynigiwch fwy o gysur, os yw hynny'n briodol.
  • Cadwch oddi wrth leisiau miniog a symudiadau sydyn. Gallai gormod o sŵn neu ormod o bobl ychwanegu at ei ddryswch.
  • Ceisiwch osgoi gwrthdaro. Ceisiwch dynnu ei sylw os yw'n ymddangos yn ofidus. Efallai y gwelwch ei fod o gymorth ichi fynd o'r ystafell am ychydig eiliadau.
  • Dewch o hyd i weithgareddau i symbylu diddordeb y person. Gofalwch ei fod yn cael digon o ymarfer corff.
  • Gofalwch fod y person yn cael gwiriadau iechyd rheolaidd a chysylltwch â'r meddyg teulu ar unwaith os yw'n ymddangos ei fod yn sâl neu mewn anghysur.

Camau er mwyn ymdopi

Atal yw'r ateb gorau i ymddygiad ymosodol ond ni fydd yn gweithio bob amser. Os yw'r math hwn o ymddygiad yn digwydd, peidiwch â rhoi'r bai arnoch eich hun. Canolbwyntiwch yn hytrach ar ei drafod mor dawel ac effeithiol ag y bo modd.

Ar y pryd:

  • Ceisiwch aros yn dawel a pheidiwch â dechrau dadl, ni waeth pa mor ofidus y teimlwch. Mae ymateb gwyllt yn debygol o waethygu'r sefyllfa.
  • Anadlwch yn ddwfn a chyfrif i ddeg cyn ymateb. Cysurwch y person a cheisiwch dynnu ei sylw. Ewch o'r ystafell os oes angen.
  • Ceisiwch beidio â dangos unrhyw bryder gan y gallai hynny gynhyrfu'r person fwyfwy. Wrth gwrs, llawer haws yw dweud hyn na'i wneud os teimlwch eich bod dan fygythiad. Efallai y gallech ddyfeisio rhai strategaethau ymlaen llaw i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd o'r fath.
  • Os yw'r person yn gorfforol ymosodol, rhowch ddigon o le iddo. Mae agosáu ato neu geisio ei rwystro, oni bai fod gwir angen hynny, yn gallu gwaethygu pethau. Efallai y bydd raid ichi ei adael nes bydd y ddau ohonoch wedi tawelu. Efallai y bydd raid ichi alw am gymorth.

Wedyn:

  • Peidiwch â cheisio cosbi'r person drwy wrthod pethau sy'n rhoi mwynhad, er enghraifft, neu ei anwybyddu. Nid yw'n gallu dysgu o brofiad ac mae'n debygol o anghofio'r digwyddiad yn fuan iawn. Fodd bynnag, fe all deimlo rhyw anesmwythyd cyffredinol am beth amser. Ceisiwch ymddwyn mor arferol a chysurlon ag y bo modd.
  • Os ceir digwyddiadau ymosodol yn aml neu os ydynt yn peri pryder i chi, trafodwch hyn â gweithiwr proffesiynol fel seiciatrydd henoed neu nyrs seiciatryddol gymunedol. Mae'n bosibl y bydd yn gallu cynnig cefnogaeth ac awgrymu dulliau eraill o ymdrin â'r sefyllfa.
  • Gwell, ar y cyfan, yw osgoi trin ymddygiad ymosodol â chyffuriau. Gall y rhain guddio ymddygiad heb ymdrin â'i achos a gallant ychwanegu at y dryswch hefyd. Fodd bynnag, os gwelir ei bod yn amhosibl peidio â defnyddio cyffuriau o'r fath, bydd y meddyg am ragnodi'r dos lleiaf ac adolygu'r driniaeth yn rheolaidd.

Eich teimladau'ch hun

Mae'n bwysig cofio, er bod llawer o'r ymosodedd wedi'i gyfeirio atoch chi o bosibl, nad yw'n bersonol. Mae ond yn digwydd i chi am mai chi sydd yno. Fodd bynnag, mae'n debyg y bydd unrhyw ddigwyddiad o'r fath yn rhoi cryn ysgytwad i chi. Mae o gymorth i rai pobl gael sgwrs neu 'paned gyda ffrind, perthynas neu gymydog. Bydd eraill yn hoffi cael amser distaw ar eu pennau'u hunain.

Peidiwch â theimlo'n euog os collwch eich tymer. Rydych o dan bwysau mawr. Ond mynnwch drafod pethau gyda gweithiwr proffesiynol neu ofalwr arall a allai awgrymu ffyrdd o drafod sefyllfaoedd o'r fath yn fwy tawel.

Peidiwch â mygu'ch teimladau neu ddal dig. Trafodwch y pethau hyn gyda ffrind, gweithiwr proffesiynol neu o fewn grŵp gofalwyr.

Information sheet 509

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Dealing with aggressive behaviour

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.