Gofid a galar
Os bydd rhywun agos i chi'n datblygu gorffwylledd rydych yn debygol o brofi teimladau o ofid a galar wrth i'r salwch fynd yn ei flaen, nid yn unig yn y cyfnod ar ôl ei farwolaeth. Gallai fod o gymorth gwybod fod teimladau o'r fath yn arferol a bod pobl eraill yn profi ymateb tebyg. Mae cymaint o fân newidiadau'n digwydd ar hyd y ffordd wrth ofalu am rywun sydd â gorffwylledd fel ei bod yn anodd iawn i rai gofalwyr ddygymod â'u teimladau. Gallech addasu a dod i delerau ag un cyfnod o salwch y person a chanfod wedyn fod ei ymddygiad yn newid neu ei alluoedd yn dirywio ymhellach a chithau'n dechrau gofidio o'r newydd.
Ymdeimlad o golled
Yr ymdeimlad o golled yw un o'r teimladau mwyaf pwerus y bydd gofalwyr yn ei brofi. Yn ôl eich perthynas â'r person neu'ch amgylchiadau unigol gallech alaru am:
- Colli'r person yr oeddech unwaith yn ei adnabod
- Colli'r dyfodol yr oeddech wedi ei gynllunio gyda'ch gilydd
- Colli'r berthynas yr oeddech unwaith yn ei mwynhau
- Colli ei gwmni, ei gefnogaeth neu ei ddealltwriaeth arbennig
- Colli'ch rhyddid eich hun i weithio neu ddilyn gweithgareddau eraill
- Colli'r arian neu ffordd o fyw yr oeddech unwaith yn eu cymryd yn ganiataol.
Cyfyngiadau
Faint bynnag y byddwch yn dymuno parhau i ofalu rydych yn sicr weithiau o ddal dig oherwydd y cyfyngiadau ar eich bywyd eich hun. Gallech deimlo'n anhapus hefyd am nad yw pethau wedi digwydd fel yr oeddech yn gobeithio.
- Ystyriwch eich anghenion eich hun. Drwy gymryd seibiant yn rheolaidd oddi wrth ofalu byddwch yn gallu cadw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan a chodi'ch calon.
- Neilltuwch amser i chi'ch hun bob diwrnod. Bydd ymlacio ac yfed paned o de neu gael sgwrs braf ar y ffôn yn eich helpu i gael eich cefn atoch a dygymod â'ch emosiynau.
Proses o ddringo a disgyn
Proses o ddringo a disgyn yw galaru. Yn y cyfnodau cynnar, gallech symud o anobaith i optimistiaeth lwyr y bydd gwellhad i'w gael cyn hir. Bydd rhai hyd yn oed yn gwadu fod dim o'i le ar y person ac yn ceisio mygu eu teimladau. Yn ddiweddarach, pan fyddwch wedi derbyn y sefyllfa, mae'n bosibl y gwelwch fod cyfnodau pan fyddwch yn gallu ymdopi'n iawn a gwneud y gorau ohoni. Ar adegau eraill, gallech gael eich llethu gan dristwch neu ddicter neu gallech fod yn ddideimlad. Mae llawer o ofalwyr yn cael braw o ganfod eu bod weithiau'n dymuno y byddai'r person yn marw. Mae teimladau o'r fath yn rhan arferol o alaru. Ond mae'n bwysig ichi sylweddoli eich bod o dan lawer o bwysau a cheisio cymorth emosiynol i chi'ch hun.
Beth allai fod o gymorth?
- Dywedwch am eich teimladau wrth weithiwr proffesiynol sy'n cydymdeimlo, neu wrth ofalwyr eraill, ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo neu aelodau cefnogol o'ch teulu. Peidiwch â mygu'ch teimladau.
- Llaciwch y tyndra drwy grio, neu weiddi neu ddyrnu clustog. Fodd bynnag, sicrhewch fod y person yr ydych yn gofalu amdano'n ddiogel ac allan o glyw neu gallech beri gofid iddo.
- Ceisiwch berswadio ffrindiau i alw heibio am sgwrs neu'ch ffonio'n rheolaidd.
- Sicrhewch eich bod yn gweld eich meddyg teulu os ydych yn teimlo'n ddigalon neu'n bryderus neu os ydych yn flinedig iawn ac yn methu cysgu. Mae'n bwysig ceisio atal eich teimladau arferol o dristwch rhag troi'n iselder sydd yn llawer mwy anodd ei drin.
Gofal tymor-hir
Os bydd y person yn cael ei dderbyn i ofal tymor-hir fe allech galaru oherwydd newid arall yn eich perthynas. Yn lle'r rhyddhad y gallech ei deimlo ar y dechrau, gallech brofi teimladau o golled a galar, yn gymysg ag euogrwydd, sy'n gallu parhau am gyfnod rhyfeddol o hir. Gallech golli presenoldeb y person. Gallech brofi teimladau o wacter. Gallech deimlo'n flinedig iawn, yn gorfforol ac yn emosiynol.
- Ceisiwch beidio â gwneud llawer nes teimlwch eich bod yn magu nerth eto.
- Mae'n bosibl y byddwch yn cael y misoedd cyntaf yn haws os trefnwch eich diwrnod yn ôl patrwm pendant.
- Peidiwch â syrthio i'r fagl o seilio'ch bywyd ar ymweld â'r person yn ei gartref newydd. Mae angen ichi wneud bywyd newydd i chi'ch hun sy'n cynnwys yr ymweliadau hyn.
Tua'r diwedd
ng nghyfnodau olaf gorffwylledd mae'n bosibl na fydd y person yn gallu'ch adnabod neu gyfathrebu â chi. Gall hynny fod yn boenus iawn. Er ei bod yn ymddangos fod y berthynas wedi gorffen bron, ni allwch alaru'n iawn am fod y person yn fyw o hyd. Gallai'r ddau ohonoch gael cysur os gafaelwch yn llaw'r person neu eistedd â'ch braich amdano. Gallai'ch helpu hefyd i sylweddoli eich bod wedi gwneud popeth y gallech ei wneud.
Pan fydd y person yn marw
Bydd rhai pobl yn gweld eu bod wedi galaru cymaint yn ystod y salwch fel nad oes ganddynt deimladau cryf ar ôl pan fydd y person farw. Bydd pobl eraill yn profi amrediad o ymatebion llethol ar wahanol agweddau. Gallai'r rhain gynnwys:
- Diffyg teimlad, fel pe bai eu teimladau wedi rhewi
- Anallu i dderbyn y sefyllfa
- Braw a phoen, hyd yn oed os yw'r farwolaeth yn hir-ddisgwyliedig
- Rhyddhad, dros y person oedd â gorffwylledd a hwy eu hunain
- Dicter a chwerwder ynghylch yr hyn a ddigwyddodd
- Euogrwydd ynghylch rhyw fân ddigwyddiad yn y gorffennol
- Tristwch
- Teimladau o fod ar wahân.
Dylai gofalwyr fod yn barod am y ffaith y gallai gymryd llawer o amser iddynt ddygymod â marwolaeth y person. Mae'n bosibl i'r gofalu fod yn waith llawn-amser am gyfnod hir a phan ddaw i ben bydd yn gadael gwacter ar ei ôl.
- Ceisiwch beidio â gwneud penderfyniadau mawr yn y misoedd cyntaf os yw'r ysgytwad yn dal i effeithio arnoch a chithau'n teimlo'n hawdd eich brifo
- Dylech dderbyn, er eich bod yn ymdopi'n gyffredinol, y bydd adegau pan fyddwch yn teimlo'n arbennig o drist neu ofidus
- Mae achlysuron fel pen blwydd neu ben blwydd priodas yn peri gofid yn aml. Os felly, gofynnwch am gymorth gan eich ffrindiau a'ch teulu o
- Cadwch mewn cysylltiad agos â'ch meddyg teulu. Rydych yn debygol o fod yn fwy agored i salwch corfforol yn ogystal â phryder neu iselder ar ôl profedigaeth.
Codi'n ôl ar eich traed
- Er y gallech deimlo'n flinedig iawn ar ôl i rywun farw neu gael ei dderbyn i ofal tymor-hir, fe ddaw adeg pan fyddwch yn barod i ailddechrau'ch bywyd eich hun a symud ymlaen. Gallech deimlo'n ddihyder iawn i ddechrau a'i chael yn anodd gwneud penderfyniadau, sgwrsio am fân bethau neu ddygymod ag achlysuron cyhoeddus. Ond daliwch ati. Fe ddaw'ch hyder yn ôl yn raddol. Peidiwch â brysio pethau a sicrhewch fod gennych ddigon o gefnogaeth oddi wrth eich teulu a'ch ffrindiau, gweithwyr proffesiynol a chyn-ofalwyr eraill. Gallai taflen wybodaeth y Gymdeithas Cyfnodau diweddarach gorffwylledd fod o gymorth.
Carer's advice sheet 507
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS