Gweithgareddau
Os gallwch helpu'r person sydd â gorffwylledd i ddod o hyd i weithgareddau y mae'n eu mwynhau, byddwch yn gwella ansawdd bywyd y ddau ohonoch. Bydd yn rhaid ichi fod yn ddyfeisgar ac yn hyblyg wrth addasu gweithgareddau i alluoedd cyfnewidiol a hwyliau amrywiol y person.
Mae'n bwysig dewis gweithgareddau y gall y person ymdopi â hwy
Mae gan bawb, gan gynnwys pobl â gorffwylledd, angen seicolegol sylfaenol i'w diddori eu hunain. Fodd bynnag, yn achos person sydd â gorffwylledd, mae'n bosibl y bydd llwybrau'r nerfau yn yr ymennydd sy'n cario cymhelliant wedi eu difrodi. Mae'n bosibl, felly, y byddwch yn gorfod eu helpu i gychwyn.
Mae llawer o bobl sydd â gorffwylledd yn ei chael yn anodd canolbwyntio. Mae'n bosibl na fyddant yn gallu canolbwyntio ar ddim byd, fel rhaglen deledu neu ddarllen y papur, yn hir iawn. Mae hyn yn golygu fod rhaid addasu gweithgareddau i gwrdd â'u hanghenion arbennig iawn.
Sut y gall gweithgareddau helpu
- Gall gweithgareddau helpu rhywun i gadw ei fedrau a rhoi iddo ymdeimlad o gyflawni rhywbeth.
- Gall gweithgareddau fod yn ddiddorol ac yn hwyl. Gallant helpu'r person i deimlo'n well amdano'i hun a bod yn fwy effro ac ymddiddori'n fwy yn yr hyn sy'n mynd ymlaen o'i gwmpas.
- Gall gweithgareddau helpu person sydd â gorffwylledd i fynegi ei deimladau. Mae sôn am y gorffennol wrth edrych ar hen luniau neu wrando ar gerddoriaeth yn gallu ennyn emosiynau cryf a bydd raid ichi fod yn sensitif i'r emosiynau hyn. Y rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud â'r cof a meddwl a rhesymu a gaiff eu difrodi drwy orffwylledd, nid yr emosiynau. Rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny bob amser.
Manteision i'r gofalwr
Os yw rhywun yn ei ddiddori'i hun mewn modd dymunol ni fydd yn mynd i deimlo'n ddiflas ac yn rhwystredig. Mae diflastod a rhwystredigaeth yn gallu achosi rhywfaint o'r ymddygiad rhyfedd sydd yn gymaint o boen i ofalwyr. Efallai y gwelwch fod yr ymddygiad hwn yn lleihau neu'n diflannu hyd yn oed o ganlyniad i weithgaredd priodol.
Wrth rannu gweithgaredd y mae'r ddau ohonoch yn ei fwynhau, mae'n bosibl y byddwch yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu â'r person gan ddod â'r ddau ohonoch yn nes at eich gilydd.
Ymarfer
- Mae cerdded yn ymarfer da. Mae hefyd yn defnyddio adrenalin a gynhyrchir drwy straen a rhwystredigaeth. Mae'n debyg y bydd y ddau ohonoch yn elwa o fynd am dro.
- Mae'n beth da i'r ddau ohonoch fynd allan a bydd llawer o ofalwyr yn meddwl am ffyrdd dyfeisgar o drefnu tripiau bach hyd yn oed os nad yw hynny ond i'r caffi neu'r archfarchnad leol.
Pethau sy'n dod â'r gorffennol i gof
Bydd pobl sydd â gorffwylledd fel arfer yn ei chael yn haws cofio pethau a ddigwyddodd pan oeddent yn llawer iau yn hytrach na phethau diweddar. Os gallwch ddod o hyd i ffordd o ddeffro'r hen atgofion hyn mae'n bosibl y gwelwch fod y person yn dod yn fwy bywiog a chwilfrydig.
- Edrychwch ar hen luniau teuluol neu lyfrau â lluniau o'r gorffennol a siaradwch amdanynt.
- Efallai y byddech yn hoffi casglu llond bocs o hen bethau sydd o ddiddordeb i'r person yr ydych yn gofalu amdano. Mae trin pethau yn gallu deffro atgofion yn fwy effeithiol nag edrych ar luniau ohonynt.
Y cyfnodau cynnar
Yn y cyfnodau cynnar o orffwylledd bydd y person am barhau i wneud y pethau a wnaeth erioed. Chi yw'r un gorau i'w helpu am eich bod yn ei adnabod cystal. Gall y person fwynhau gweithgareddau ar ei ben ei hun.
- Bydd arno angen ichi ei annog a'i atgoffa.
- Bydd arno angen ichi roi unrhyw offer mewn man lle y gall ei weld yn rhwydd.
- Defnyddiwch frawddegau byr wrth gynghori'r person ynghylch yr hyn i'w wneud.
Dyma ychydig o enghreifftiau:
- Mae'n bosibl y bydd rhywun a fu'n dda am wau yn dal i allu gwau clytiau ar gyfer blanced i'w rhoi at achos da.
- Efallai y bydd rhywun a arferai fwynhau gwneud posau croeseiriau yn dal i allu mwynhau'r posau mewn llyfr posau.
- Gallech chi neu ffrind neu berthynas arall gymyd rhan mewn gweithgareddau eraill - chwarae cardiau neu Scrabble, garddio neu bobi, er enghraifft.
- Bydd dynion a benywod yn mwynhau helpu mewn tasgau o gwmpas y ty fel golchi a sychu llestri, gosod y bwrdd a gwneud gwelyau. Efallai na fydd y canlyniad yn berffaith ond gallant ddal i fwynhau'r profiad o gyflawni rhywbeth.
- Cedwir y cof ar gyfer rhai gweithgareddau. Mae llawer o bobl yn dal i allu darllen hyd yn oed pan effeithiwyd ar alluoedd eraill. Mae hyn yn dibynnu ar ba ran o'r ymennydd a ddifrodwyd gan orffwylledd. Er enghraifft, efallai y bydd y gallu i deipio neu ganu'r piano yn gyfan tan y cyfnodau diweddar o orffwylledd am ei fod wedi ei osod mewn rhan benodol o'r ymennydd.
- Mae cerddoriaeth yn adnodd pwysig i bobl sydd â gorffwylledd a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Mae'n bosibl y bydd pobl yn dal i fwynhau canu, dawnsio a gwrando ar gerddoriaeth pan fydd galluoedd eraill wedi eu handwyo. Efallai yr hoffech recordio tâp o hoff ddarnau o gerddoriaeth neu ganeuon i'r person wrando arno. Efallai y byddai perthynas neu ffrind yn hoffi'ch helpu i wneud hynny.
- Efallai fod y person yn mwynhau gwrando ar y radio - wedi ei diwnio i orsaf addas. Ond gall teledu achosi problem. Bydd rhai sydd â gorffwylledd yn colli'r gallu i wybod y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n real a'r hyn sydd ar y sgrîn a gallent ddychryn neu deimlo gofid. Mae gormod o swn yn peri dryswch hefyd. Os ydych yn gwylio'r teledu gyda'ch gilydd, dewiswch raglenni â darnau byr o symud neu hiwmor, yn hytrach na rhaglen â stori gymhleth. Gallai hoff opera sebon ddod i beri dryswch hyd yn oed.
- Chwiliwch am weithgareddau sy'n symbylu ond heb roi gormod o sialensau neu ddewisiadau. Mae rhai sydd â gorffwylledd yn gallu ei chael yn anodd prosesu nifer o ddewisiadau.
- Bydd synnwyr hiwmor yn parhau mewn llawer o bobl sydd â gorffwylledd. Bydd chwerthin iach yn gwneud lles i'r ddau ohonoch.
- Gweithgareddau sy'n parhau am gyfnod byr yw'r rhai mwyaf boddhaol oherwydd y broblem a geir wrth ganolbwyntio.
Cyfnodau diweddarach
Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu bydd y person yn dal i allu cyflawni tasgau cyfarwydd iawn. Mae'n debyg y bydd yn ymddiddori'n fwy o lawer yn y broses o gyflawni'r gweithgaredd nag yn y canlyniad.
- Mae angen rhannu cyfarwyddiadau ar gyfer gweithgaredd yn ddarnau bach, hawdd eu trin a dylent fod yn syml iawn.
- Yn y cyfnod hwn, mae'n debyg y bydd y person yn mwynhau tasgau sydd ag un cam fel ysgubo, codi llwch neu ddirwyn edafedd.
- Er bod iaith a'r rhannau o'r ymennydd sy'n rhesymu yn ymddatod yng nghyfnodau diweddarach gorffwylledd, mae synnwyr blasu, cyffwrdd ac arogleuo'r person yn gweithredu o hyd. Dewch o hyd i ffyrdd o symbylu'r synhwyrau hyn.
Symbylu'r synhwyrau
Wrth i orffwylledd ddatblygu mae pobl yn cael cysur o gyffwrdd neu fyseddu darnau o ddefnydd neu degan meddal. Mae'n bosibl y bydd y person yn cael cysur o dylino ei law neu ddefnyddio olew persawrus fel lafant, a gallai tanc pysgod, symudyn neu olygfa ddymunol ei dawelu a rhoi boddhad i chi wrth edrych arnynt gyda'ch gilydd.
Nid oes neb yn hoffi cael dim byd o gwbl i'w wneud. Bydd pawb ohonom yn hapusach wrth ddiddori ein hunain. Mae'n ymddangos mai'r gyfrinach yw sylweddoli'r gwahanol fathau o weithgareddau y gall pobl eu cyflawni wrth i orffwylledd ddatblygu a bod yn hyblyg.
Carers' advice sheet 505
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS