Anymatal
Mae anymatal yn gallu peri gofid a chywilydd i'r person â gorffwylledd ac achosi straen hefyd i'r gofalwr. Fodd bynnag, gellir gwella'r sefyllfa mewn llawer ffordd i bawb sy'n gysylltiedig. Dyma ychydig o awgrymiadau.
Nid yw anymatal yn symptom o orffwylledd ym mhob achos.
Mae llawer o wahanol resymau pam y gallai rhywun â gorffwylledd fynd yn anymataliol. Mae'n bwysig ceisio cyngor mor fuan â phosibl a sicrhau fod y person â gorffwylledd a'r gofalwr yn derbyn cymorth a chefnogaeth briodol.
Bydd anymatal yn digwydd pan fydd rhywun yn colli rheolaeth ar ei bledren (gwlychu) neu ei ymysgaroedd (baeddu).
Gall pobl ddatblygu problemau hefyd am eu bod yn anghofio mynd i'r toiled, yn camgymryd pethau eraill fel bun papur gwastraff am doiled, neu am na wyddant lle y mae.
Gall hyn ddigwydd y rhan fwyaf neu'r cwbl o'r amser neu'n achlysurol yn unig. Mae gwlychu yn llawer mwy cyffredin na baeddu. Gall y ddau fod yn ganlyniad i gyflyrau y gellir eu trin, felly y cam cyntaf yw cysylltu â'r meddyg teulu.
Cyflyrau y gellir eu trin
Rhai o'r cyflyrau sy'n gallu achosi gwlychu yw:
- Haint ar y bibell droethol. Gellir ei drin fel arfer drwy feddyginiaeth.
- Trafferthion â'r chwarren brostad mewn dynion. Mae'n bosibl y rhoddir cyngor i gael llawdriniaeth.
- Sgil-effeithiau cyffuriau. Gallai'r meddyg teulu roi cyffuriau gwahanol neu newid y dos.
- Rhwymedd difrifol drwy bwysau ar y bledren. Gall rhwymedd difrifol arwain at faeddu hefyd. Bydd bwyta bwydydd sydd â llawer o ffeibr, yfed llawer o ddiodydd a chadw'n corff i symud yn gymorth.
Ffynonellau cymorth eraill
Lle na ellir rhoi triniaeth ar unwaith, mae'n bosibl y gallai'r meddyg teulu roi cyngor hefyd. Mae'n bosibl y bydd y person â gorffwylledd yn cael ei gyfeirio at nyrs gymunedol neu at ymgynghorydd anymatal.
Gall y Sefydliad Ymatal (Continence Foundation) ddweud wrthych sut i gysylltu ag ymgynghorydd yn eich ardal ac mae hefyd yn rhedeg llinell gymorth ar gyfer pob problem sy'n ymwneud ag anymatal (gweler isod).
Gall y nyrs gymunedol neu'r ymgynghorydd ymatal ymweld â'r cartref er mwyn asesu'r sefyllfa ac awgrymu ffyrdd i'r ddau ohonoch ymdopi'n well. Bydd o gymorth os gallwch aros yn dawel a digyffro wrth ymdrin ag anymatal. Cofiwch bob amser nad ar yr un sydd â gorffwylledd y mae'r bai.
Dulliau defnyddiol o weithredu
Ymhlith y rhain gellid cynnwys:
- Atgoffa'r person i fynd i'r toiled neu fynd â'r person i'r toiled yn rheolaidd. Gellir rheoli baeddu weithiau drwy fynd â'r person i'r toiled ar adeg benodol, os yw'n cael ei weithio'n rheolaidd.
- Bod yn ymwybodol fod aflonyddwch, codi ac eistedd neu dynnu ar ddillad yn gallu bod yn arwydd fod ar y person angen mynd i'r toiled.
- Sicrhau fod y toiled yn hawdd ei ganfod ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gall therapydd galwedigaethol roi cyngor ar gymhorthion fel canllawiau.
- Sicrhau fod gan y person ddillad y gellir eu tynnu a'u datod yn gyflym. Gallai ffasninau felcro fod yn haws eu defnyddio na sipiau neu fotymau os yw hynny'n dderbyniol gan y person.
- Peidio â rhoi diodydd am ddwy neu dair awr cyn i'r person fynd i'w wely os yw'n anymataliol yn y nos. Fodd bynnag, dylech sicrhau ei fod yn yfed digon yn ystod y dydd.
- Sicrhau nad oes rhwystrau, fel dodrefn mewn lle anhwylus, ar ffordd y person neu ddrysau sy'n anodd eu hagor.
- Sicrhau fod y person yn gwybod ym mhle y mae'r toiled. Gallai arwydd ar y drws fod o gymorth - mae lluniau'n well na geiriau'n aml. Neu ei atgoffa ym mhle y mae.
- Os aiff yn rhy anodd i'r person gyrraedd y toiled, gallai cymorth fel comôd fod yn ddefnyddiol. Gall y nyrs gymunedol roi cyngor ar hynny.
Cymhorthion anymatal
Os nad yw annog y person i fynd i'r toiled yn rheolaidd yn ddigon i rwystro anymatal, mae llawer o ddulliau eraill ichi allu gwneud y person yn fwy cysurus a diogelu eitemau fel dillad a dillad gwelyau. Mae'n bosibl y bydd rhai nwyddau ar gael drwy'r ymgynghorydd ymatal neu'r nyrs gymunedol. Gellir prynu eraill mewn siop fferyllydd.
- Gallwch ddiogelu'r matres â gorchudd diddos ond gofalwch na ddaw i gysylltiad â chroen y person gan y bydd yn achosi dolur. Gellir cael gorchuddion diogelu arbennig i duvets a gobenyddion.
- Mae cynfasau isaf amsugnol ailddefnyddiadwy ar welyau a chadeiriau gwely yn galluogi'r person i orwedd neu eistedd ar wyneb sych.
- Gellir gwisgo padiau a thrywsus bach arbennig, ddydd a nos neu yn ystod y nos yn unig, sy'n cadw'r man sydd agosaf i groen y person yn sych. Mae'n bwysig sicrhau fod y rhain yn amsugno'n iawn, nad ydynt yn rhwbio, ac y cânt eu newid mor aml ag y mae angen. Gall y nyrs gymunedol neu'r ymgynghorydd ymatal roi cyngor ar gymhorthion eraill fel y bo'n briodol.
Glanweithdra
Gall anymatal arwain at lid ar y croen a pheri fod y person yn teimlo'n anghyfforddus yn gyffredinol. Os yw'n mynd yn wlyb neu'n fudr, helpwch y person i ymolchi â sebon mwyn a dwr cynnes a sychwch ef yn ofalus cyn rhoi padiau a dillad glân. Dylid rhoi padiau a ddefnyddiwyd mewn cynhwysydd addas a golchi dillad a dillad gwely budr ar unwaith neu eu trochi mewn cynhwysydd aerglo nes eu golchi.
Ymddygiad dryslyd
Bydd pobl â gorffwylledd yn ymateb yn wahanol i'r profiad o anymatal. Bydd rhai yn teimlo gofid a chywilydd; mae eraill yn ymddangos eu bod yn ei dderbyn. Bydd rhai'n ceisio cuddio'r dystiolaeth. Gallent dynnu dillad gwlyb neu fudr a'u cuddio neu lapio carthion mewn parsel er mwyn cael gwared â hwy. Gallent wneud dwr mewn lle amhriodol fel bun papur gwastraff am eu bod wedi ei gamgymryd am doiled. Gallent ddrysu ynghylch eu hamgylchiadau. Er ei bod yn bosibl y bydd y sefyllfa'n peri gofid i chi, ni fydd o gymorth i'r un ohonoch os byddwch yn digio. Ni all y person wneud dim ynghylch ei ymddygiad. Bydd arno angen cysur gennych chi. Trafodwch ddulliau o ymdopi gyda'r nyrs gymunedol neu'r ymgynghorydd ymatal.
Teimladau
Mae glendid personol yn fater preifat iawn i bob un ohonom. Mae llawer yn ei chael yn anodd derbyn fod arnynt angen cymorth rhywun arall, hyd yn oed rhywun agos iawn iddynt, a dyna pam y gall y pwnc hwn beri cymaint o straen.
Ceisiwch ddod dros unrhyw annifyrrwch neu ddiflastod a deimlwch. Bydd angen ichi fod yn dringar ac yn sensitif wrth helpu rhywun mewn ffordd mor bersonol. Os ydych yn ei chael yn anodd dygymod â'ch teimladau, trafodwch hyn â'r nyrs gymunedol neu'r ymgynghorydd ymatal. Mae'n bwysig ceisio sicrhau na fydd trin anymatal yn rhwystr i'ch perthynas.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
The Continence Foundation
2 Doughty Street
Llundain
WC1N 2PH
Llinell gymorth: 019 1213 0050
Dydd Llun-dydd Gwener 9am-6pm
Mae'n bosibl y bydd taflen wybodaeth y Gymdeithas, Pwy all helpu? o gymorth.
Carers' advice sheet 502
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS