Alzheimer's Society
 

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Cerdded o gwmpas neu 'grwydro'

Mae llawer o resymau pam y mae rhai pobl sydd â gorffwylledd yn teimlo'r rheidrwydd i gerdded o gwmpas neu adael eu cartref. Mae'n bwysig meddwl ynghylch pam y gallai'r person wneud hynny fel y gallwch ddod o hyd i ffyrdd o ymdrin â'r sefyllfa. Dylai unrhyw ddull o weithredu a ddewiswch gadw annibyniaeth ac urddas y person i'r graddau mwyaf posibl.

Gall gofalwyr deimlo'n bryderus ac yn ddryslyd os yw'r un y maent yn gofalu amdano'n dechrau cerdded o gwmpas mewn modd sy'n ymddangos yn ddibwrpas.

Bydd y camau a gymerwch yn dibynnu ar y graddau y mae'r person yn gallu ymdopi ac ar y rhesymau posibl dros yr ymddygiad hwn. Bydd raid ichi hefyd ystyried pa mor ddiogel y mae amgylchedd y person. Nid oes y fath beth ag amgylchedd diberygl ond mae'n amlwg fod rhai lleoedd yn ddiogelach na'i gilydd. Mae'n bwysig iawn annog pobl i aros yn annibynnol mor hir ag y gallant. Gallech benderfynu felly, fel y bydd llawer o gofalwyr, fod rhywfaint o risg yn dderbyniol er mwyn cynnal ansawdd bywyd y person.

Pam y mae pobl yn ymddwyn fel hyn?

Mae'n werth inni gofio'r rhesymau pam y gallem fynd am dro.

  • Mae'n ein helpu i gadw'n iach a chysgu'n well yn y nos. * Mae'n ffordd dda o lacio tyndra.
  • Mae rhai ohonom yn cerdded o ran pleser pur. Yn achos llawer o bobl, mae cerdded yn rhywbeth y maent wedi arfer ei wneud gydol eu hoes.

Mae'r rhesymau hyn yr un mor berthnasol i bobl sydd â gorffwylledd.

Os bydd y person yr ydych yn gofalu amdano'n cael ei dderbyn i ofal dydd, gofal preswyl dros dro neu ofal tymor-hir, mae'n bwysig dweud wrth y staff am ei arferion cerdded a darganfod beth yw polisi'r cartref, fel eich bod yn deall y sefyllfa ymlaen llaw.

Rhesymau dros gerdded

Teimlad o fod ar goll

Os yw'r person wedi symud ty'n ddiweddar, neu'n mynychu canolfan dydd newydd neu'n derbyn gofal preswyl dros dro, mae'n bosibl ei fod yn teimlo'n ansicr mewn amgylchedd newydd. Efallai y bydd arno angen mwy o gymorth i gael hyd i'w ffordd o gwmpas. Efallai y bydd yn fwy dryslyd hefyd wrth geisio mynd o gwmpas ei gartref ei hun ar ôl dychwelyd.

Dylai'r dryswch hwn ddiflannu ar ôl iddo ddod i arfer â'i amgylchiadau newydd.

Fodd bynnag, wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, mae'n bosibl y bydd llawer o bobl yn methu adnabod mannau cyfarwydd - gallent deimlo fod eu cartref eu hunain yn lle dieithr, hyd yn oed.

Colli'r cof

Gallai anghofrwydd tymor-byr arwain at y math hwn o ymddygiad. Bydd rhywun yn cychwyn ar daith i bwrpas penodol gyda nod benodol mewn golwg. Gallai wedyn anghofio i ble'r oedd yn mynd.

Gallai anghofio eich bod wedi dweud wrtho eich bod yn mynd allan a bydd yn cychwyn i chwilio amdanoch. Gallai hynny beri pryder mawr iawn a bydd arno angen llawer o gysur. Yn y cyfnodau cynnar, mae'n bosibl y bydd o gymorth gadael nodyn i atgoffa'r person o ble'r ydych wedi mynd a pha bryd y byddwch yn ôl. Mae'n bwysig rhoi nodyn o'r fath - wedi ei osod yn sownd - mewn man lle y mae'r person yn debygol o'i weld - wrth y tegell, er enghraifft, neu wrth y ffôn.

Wrth i'r cyflwr ddatblygu, mae'n debyg na fydd strategaethau o'r fath yn effeithiol.

Parhau ag arfer

Mae'n naturiol y bydd pobl a fu'n arfer cerdded ar hyd eu hoes, am ba bynnag reswm, yn dymuno parhau i wneud hynny. Ceisiwch wneud hynny'n bosibl mor hir ag y gallwch. Efallai y gallech sicrhau cymorth gan berthnasau neu ffrindiau i fynd gyda'r person os na allwch wneud hynny eich hun.

Diflastod

Gallai pobl gerdded o gwmpas yn aml am eu bod wedi diflasu. Mae llawer o bobl sydd â gorffwylledd heb ddigon i'w wneud. Ymddiddori mewn gwneud pethau sy'n rhoi i bawb ei ymdeimlad o bwrpas a hunan-barch ac nid yw rhai â gorffwylledd yn eithriad.

Egni

Fe allai cerdded di-baid fod yn arwydd hefyd fod gan yr un â gorffwylledd egni dros ben a'i fod yn teimlo'r angen am ymarfer mwy rheolaidd.

Poen ac anghysur

Bydd llawer ohonom yn cerdded pan ydym mewn poen, gan geisio lliniaru'r anghysur. Yn wir, fe allai helpu yn achos poen oherwydd arthritis a chrydcymalau neu'r gwynegon. Fel arall, mae'n bosibl fod pobl yn ceisio dianc oddi wrth y poen. Gofynnwch i'r meddyg teulu archwilio'r person os gallai hynny fod yn wir. Fe all cerdded fod yn sgil-effaith hefyd o rai cyffuriau. Unwaith eto, dylech ofyn i'ch meddyg teulu edrych ar hynny.

Ymateb i bryder

Gall pobl gerdded o gwmpas yn aml os ydynt yn profi cynnwrf neu bryder mawr. Hefyd, gallent fod yn ymateb i rithwelediadau, sydd yn symptom cyffredin o rai mathau o orffwylledd (gweler taflen gyngor y Gymdeithas, Rhithwelediadau a rhithdybiau). Ceisiwch annog y person i ddweud wrthych am ei bryderon a chynigiwch gysur iddo.

Chwilio am y gorffennol

Wrth i orffwylledd ddatblygu, fe allai rhywun gychwyn allan i chwilio am rywun neu rywbeth sy'n ymwneud â'i orffennol. Rhowch anogaeth iddo siarad am hynny a dangoswch eich bod yn cymryd ei deimladau o ddifrif.

Tasg i'w chyflawni

Gallai'r un sydd â gorffwylledd fod yn cerdded am ei fod yn teimlo fod rhaid iddo gyflawni rhyw dasg. Gallai hon fod yn dasg a wnâi yn y gorffennol sy'n gysylltiedig â'i waith blaenorol. Gallai fod yn bosibl darganfod gweithgaredd sy'n cyflawni'r un ymdeimlad o bwrpas.

Dryswch ynghylch amser

Mae'n beth cyffredin i rywun â gorffwylledd fynd yn ddryslyd ynghylch amser. Gallai ddeffro ar ganol y nos ac ymbaratoi ar gyfer y diwrnod wedyn. Hawdd deall y rheswm am y dryswch hwn, yn enwedig yn y gaeaf pan fydd pobl yn mynd i'w gwelyau yn y tywyllwch ac yn codi yn y tywyllwch. Ceisiwch ddarparu mwy o weithgareddau yn ystod y dydd sydd yn defnyddio egni neu efallai berswadio'r person i fynd i'w wely'n gynt. Os yw ei gloc naturiol ymhell allan ohoni, mae'n bosibl y bydd angen ichi geisio cymorth proffesiynol.

Awgrymiadau

  • Gofalwch fod y person yn cario rhywbeth sy'n dangos pwy ydyw - er enghraifft, enw a rhif ffôn rhywun y gellir cysylltu ag ef os oes angen - rhag ofn iddo fynd ar goll. Gellid gwnïo hynny ar siaced neu mewn bag llaw fel na châi ei dynnu'n rhwydd.
  • Ceisiwch beidio â rhoi meddyginiaeth i rwystro'r person rhag cerdded i ffwrdd. Bydd dosau sy'n ddigon cryf i wneud hynny'n achosi syrthni, yn cynyddu dryswch ac efallai'n achosi anymatal.
  • Os yw'r person yn benderfynol o ymadael, gwell yw peidio â mynd wyneb yn wyneb oherwydd gallai hynny beri gofid i'r ddau ohonoch. Ceisiwch fynd gyda'r person ychydig o'r ffordd ac wedyn tynnu ei sylw fel bod y ddau ohonoch yn dychwelyd. Bydd yr anghofrwydd tymor-byr yn eich helpu mewn sefyllfaoedd o'r fath oherwydd, os nad yw'r un ohonoch wedi profi gofid, bydd y person yn anghofio'r digwyddiad mewn byr o dro.
  • Bydd rhai gofalwyr teuluol yn cloi neu'n bolltio drysau er mwyn atal y person rhag gadael y ty. Mae'n anghyfreithlon i neb heblaw'r teulu rwystro unigolyn fel hyn. Os penderfynwch fod rhaid ichi wneud hyn, ceisiwch wneud ar gyn lleied o achlysuron ag y bo modd. Rhaid ichi fod yn ymwybodol o berygl tân a sicrhau fod unrhyw gloeon neu folltiau'n hawdd ichi eu gweithio.
  • Mae rhai gofalwyr wedi darganfod fod rhoi drych yn y cyntedd neu osod llen o fwclis ar draws y drws ffrynt yn atal y person rhag gadael. Fodd bynnag, mae'r camau hyn yn peri gofid i rai pobl â gorffwylledd.
  • Mae'n bosibl y gwelwch ei bod yn werth dweud wrth siopwyr lleol a chymdogion am orffwylledd y person. Efallai y byddant wedyn yn cynnig cadw gwyliadwriaeth.
  • Os bydd y person yn diflannu, peidiwch â chynhyrfu.
  • Os na allwch ddod o hyd iddo ar eich pen eich hun neu gyda chymorth eraill, rhowch wybod i'r heddlu lleol. Cadwch lun diweddar wrth law i helpu'r heddlu i ddod o hyd i'r person.
  • Pan ddaw'r person yn ei ôl, ceisiwch beidio â'i ddwrdio neu ddangos iddo eich bod yn bryderus ac yn ofidus. Mae'n bosibl y bydd y person ei hun yn teimlo'n bryderus iawn os yw wedi mynd drwy'r profiad o fod ar goll. Rhowch gysur iddo a'i gael yn ôl i drefn gyfarwydd mor fuan â phosibl.
  • Ar ôl datrys y sefyllfa, gwnewch eich gorau i ymlacio. Ffoniwch aelod o'r teulu neu ffrind os gallwch er mwyn rhyddhau'ch teimladau.
  • Cofiwch na fydd ymddygiad o'r fath yn parhau. Mae'n ymddangos ei fod yn un cyfnod o'r cyflwr y bydd pobl yn mynd drwyddo. Mater i chi yw gweld unrhyw ddigwyddiad yn boen bychan neu'n ofid mawr. Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â gorffwylledd yn cadw eu synnwyr ffordd ac anaml iawn y'u gwelir mewn damweiniau traffig.

Carers' advice sheet 501

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Walking about or 'wandering'

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.