Cyfathrebu
Dylid annog pobl sydd â gorffwylledd i gyfathrebu ym mha bynnag ffordd sy'n ymddangos yn fwyaf priodol. Bydd hyn yn eu helpu i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth ac yn gwella ansawdd eu bywyd.
Mae cyfathrebu'n cynnwys llawer mwy na'r iaith lafar. Mae cyfathrebu heb eiriau o bwys arbennig i bobl sydd â gorffwylledd ac mae'n bwysig iawn bod yn ymwybodol o hynny. Rydym yn gyfarwydd â'r syniad fod gwneud yn bwysicach na dweud. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy'n colli eu medrau iaith. Mae llawer o'r ymddygiad sy'n peri problemau i ofalwyr mewn gwirionedd yn ymgais i gyfathrebu gan yr un sydd â gorffwylledd.
Medrau iaith
Un arwydd cynnar o effaith gorffwylledd ar iaith yw bod y person yn dod i fethu â chael hyd i'r geiriau iawn - yn enwedig enwau pethau. Gallai roi gair arall, anghywir, yn ei le neu gallai fethu â chael hyd i air o gwbl. Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, bydd yn llai galluog i ddechrau sgwrs ac efallai y bydd y gofalwr yn gorfod dod i arfer â chymryd y cam cyntaf. Ceisiwch osgoi gofyn cwestiynau uniongyrchol - gallai rhywun â gorffwylledd fynd yn rhwystredig os na all ddod o hyd i'r ateb. Yng nghyfnodau cynharaf gorffwylledd bydd yn gallu mynegi'r teimladau hyn, ond yn ddiweddarach gall ymateb drwy fod yn bigog neu'n ymosodol hyd yn oed. Mae'r rhan fwyaf o'n sgwrsio cymdeithasol arferol yn seiliedig ar ofyn cwestiynau, felly mae hwn yn fedr anodd i'w ddysgu gan ofalwyr. Efallai y daw adeg pan na fydd y person yn gallu cyfathrebu drwy iaith o gwbl bron. Nid yn unig y bydd yn methu dod o hyd i enwau pethau, gallai hyd yn oed anghofio'ch enw chi. Bydd pobl yn aml yn drysu rhwng y cenedlaethau, gan gamgymryd eu gwraig am eu mam, neu eu mab am eu gwr. Gall hynny beri gofid mawr i ofalwr. Fodd bynnag, y rheswm am hyn yw'r colli cof sef un o symptomau amlycaf gorffwylledd. Mae'n bosibl y bydd rhai â gorffwylledd yn ceisio dehongli byd nad yw bellach yn gwneud synnwyr iddynt am fod eu hymennydd yn bwydo gwybodaeth anghywir iddynt. Mae llawer o'r anawsterau sy'n codi yn ganlyniad i gamddehongli, gan yr un sydd â gorffwylledd a gan y gofalwr wrth geisio deall yr hyn y mae'n ceisio ei fynegi. Os cewch chi, fel gofalwr, eich dal mewn camddehongli o'r fath, rydych yn debygol o fod mewn gofid mawr a bod ag angen cymorth.
Awgrymiadau i helpu i gyfathrebu.
Gwrando
- Ceisiwch wrando'n astud bob amser ar yr hyn y mae'r person yn ei ddweud a rhowch anogaeth iddo. Beth bynnag a wnewch, peidiwch â'i drin yn nawddoglyd. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn ymateb yn wael os cawn ein trin fel pe baem yn blant bach - ac nid yw pobl â gorffwylledd yn wahanol yn hyn o beth.
- Os yw'r person yn ei chael yn anodd dod o hyd i'r gair iawn, neu orffen brawddeg, gofynnwch iddo'i egluro mewn ffordd wahanol. Gwrandewch am gliwiau.
- Os daeth yn anodd deall lleferydd, defnyddiwch y wybodaeth sydd gan y ddau ohonoch am eich gilydd i ddehongli'r hyn y credwch ei fod yn ceisio ei ddweud. Ceisiwch gadarnhad ganddo bob amser i weld a ydych yn iawn. Gall fod yn ddigon i'ch gwylltio os bydd rhywun arall yn gorffen eich brawddeg yn anghywir!
Ennill sylw
- Ceisiwch ennill a chadw sylw'r person cyn ichi ddechrau cyfathrebu.
- Ceisiwch roi'ch hun fel ei fod yn gallu'ch gweld yn glir.
- Sicrhewch fod gennych gyswllt llygaid. Bydd hyn o gymorth iddo ganolbwyntio arnoch.
- Ceisiwch leihau seiniau eraill sy'n cystadlu, fel y radio neu'r teledu neu sgwrs pobl eraill.
Iaith y Corff
- Ceisiwch aros yn dawel ac yn llonydd wrth siarad. Bydd hyn yn rhoi'r neges eich bod yn rhoi'ch holl sylw i'r person a bod gennych amser ar ei gyfer.
- Bydd rhywun â gorffwylledd yn darllen iaith eich corff. Mae'n bosibl y byddai symudiadau cynhyrfus neu olwg o dyndra ar eich wyneb yn peri gofid iddo ac yn ei gwneud yn fwy anodd cyfathrebu.
- Ceisiwch gael ffyrdd o ymlacio fel bod iaith eich corff yn cyfleu llonyddwch a hyder.
- Gallwch gael awgrymiadau o'r modd y mae'r person arall yn teimlo oddi wrth iaith ei gorff, hyd yn oed os yw'n methu siarad. Mae'r olwg ar ei wyneb a'r modd y mae'n ei ddal ei hun ac yn symud o gwmpas yn gallu rhoi arwyddion pendant o'i deimladau.
Siarad
- Siaradwch yn glir ac yn dawel. Ceisiwch beidio â siarad mewn llais miniog neu godi'ch llais. Bydd hyn yn peri gofid i'r person arall, hyd yn oed os na all ddeall ystyr y geiriau.
- Defnyddiwch frawddegau syml, byr.
- Bydd ar y person angen mwy o amser na chynt i brosesu gwybodaeth - felly rhowch ddigon o amser. Ceisiwch beidio â'i ruthro. Os gwnewch hynny bydd yn teimlo'ch bod yn ei roi o dan bwysau, hyd yn oed os nad hynny yw'ch bwriad.
- Ceisiwch osgoi gofyn cwestiynau uniongyrchol. Ond os oes rhaid i chi, gofynnwch y cwestiynau un ar y tro a'u geirio mewn modd sy'n caniatáu ateb 'ie' neu 'nace'.
- Mae pobl â gorffwylledd yn ei chael yn anodd gwneud dewis ac maent yn debygol o fynd yn ddryslyd ac yn rhwystredig os gofynnir iddynt wneud hynny.
- Os nad yw'r person yn deall yr hyn a ddywedwch, peidiwch ag ailadrodd yr un geiriau o hyd. Ceisiwch ddefnyddio ffurf arall o eiriau.
Hybu naturioldeb
- Gall hiwmor fod yn fodd i ddod â chi'n agosach at ei gilydd ac mae'n llacio tyndra. Mae chwerthin gyda'ch gilydd am gamsyniadau a chamgymeriadau yn gallu bod o gymorth.
- Os yw'r person arall yn teimlo'n drist mae ganddo hawl i fynegi'r teimladau hynny. Y cwbl y gallwch ei wneud yw dangos eich bod yn poeni.
Dangos parch
- Peidiwch byth â thrin y person arall yn nawddoglyd neu fel pe bai'n blentyn, hyd yn oed os yw'n ymddangos nad yw'n deall fawr ddim o'r hyn a ddywedwch. Peidiwch â chaniatáu i neb arall wneud hynny chwaith.
- Ceisiwch gynnwys y person sydd â gorffwylledd mewn sgyrsiau ag eraill. Efallai y gwelwch eich bod yn gallu newid ychydig ar ffurf geiriau pobl eraill er mwyn hybu'r sgwrs. Mae cynnwys pobl â gorffwylledd mewn grwpiau cymdeithasol yn helpu i gadw'r ymdeimlad bregus sydd ganddynt o'u hunaniaeth. Mae hefyd yn gymorth i'w diogelu rhag y teimladau o ddieithrwch ac arwahanrwydd a all fod yn llethol. Cofiwch eto fod pawb yn ymateb yn wael o gael ei drin yn nawddoglyd.
- Mae hefyd yn bwysig peidio â sgwrsio ar draws y person sydd â gorffwylledd fel pe na bai'n bresennol. Bydd pobl ag amryw o anableddau'n cwyno am gael eu trin fel hyn, ond mae'n berygl arbennig i bobl sydd â gorffwylledd. Os nad ydych yn cael fawr o ymateb gan y person, gall fod yn demtasiwn mawr i wneud hyn. Ond fe all achosi llawer o ddicter, rhwystredigaeth a thristwch.
Realiti pwy?
Gall ffaith a ffantasi fynd yn gymysg wrth i orffwylledd ddatblygu. Ceisiwch beidio ag ymateb drwy ddim ond gwrth-ddweud gosodiad y gwyddoch ei fod yn anghywir. Gwell yw newid y ffurf ar eiriau a ddefnyddiwch wrth ymateb. Felly, os dywed y person, 'Rhaid inni fynd nawr - mae Mam yn disgwyl amdanaf', fe allech ateb , 'Roedd eich mam yn arfer disgwyl amdanoch, oedd hi?' Beth bynnag a wnewch, peidiwch â gwneud i'r un sydd â gorffwylledd deimlo'n wirion o flaen eraill.
Anawsterau eraill
Mae poen, anghysur, salwch neu sgil-effeithiau meddyginiaeth hefyd yn gallu ei gwneud yn fwy anodd cyfathrebu. Holwch y meddyg teulu ar unwaith os ydych yn amau fod hyn yn digwydd. Mae problemau o ran y golwg, y clyw neu ddannedd gosod sy'n ffitio'n wael hefyd yn gallu rhwsytro cyfathrebu. Gofalwch fod sbectol bresgripsiwn yn gywir, fod cymhorthion clyw'n gweithio'n iawn a bod dannedd gosod yn ffitio'n dda ac yn gyfforddus.
Cadw'n agos Mae hoffter o'ch gilydd yn gallu helpu i'ch cadw'n agos hyd yn oed pan fydd sgwrsio'n fwy anodd. Gallwch gyfleu'ch gofal a'ch hoffter drwy oslef eich llais a chyffyrddiad eich llaw. Ni ddylid byth danbrisio'r tawelwch meddwl y gallwch ei roi drwy afael yn llaw'r person, neu roi'ch braich amdano (os yw hynny'n briodol). Yma eto gallwn weld fod gwneud yn bwysicach na dweud.
Carers' advice sheet 500
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

delicious
digg
StumbleUpon
Reddit
Facebook
Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS