Gyrru a gorffwylledd
Os yw rhywun yn gyrru ers blynyddoedd lawer mae'n bosibl na fydd am roi'r gorau iddi. Fodd bynnag, mae'n anghyfreithlon i rywun barhau i yrru os yw ei yrru bellach yn anniogel oherwydd rhesymau iechyd. Mae llawer o bobl â gorffwylledd yn gallu gyrru'n ddiogel am gryn amser ar ôl cael diagnosis, er bod amddiffyniadau cyfreithiol ar eu cyfer. Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, mae'n anorfod y bydd y gallu i yrru'n cael ei golli ac mae'r gyfraith yn mynnu fod rhaid rhoi'r gorau i yrru. Yn achos gyrwyr profiadol, gall gyrru ymddangos yn weithgaredd difeddwl i raddau helaeth. Mewn gwirionedd, mae gyrru'n dasg gymhleth sy'n gofyn cyfuniad cyfewin o brosesau meddwl a medrau llaw. Er mwyn gyrru, mae angen i rywun allu ddeall ac ymateb i bopeth a wêl, 'darllen y ffordd', dilyn arwyddion ffyrdd, rhagweld ac ymateb yn gyflym i weithredoedd defnyddwyr eraill y ffyrdd, camryd camau priodol er mwyn osgoi damweiniau, a chofio i ble y mae'n mynd. Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, effeithir yn ddifrifol ar y cof, y ddirnadaeth a'r gallu i gyflawni hyd yn oed tasgau syml. Nid yw'n syndod, felly, fod pobl sydd â gorffwylledd yn colli'r gallu i yrru yn y pen draw. Os oes modd, y person sydd â gorffwylledd a ddylai benderfynu rhoi'r gorau i yrru drosto'i hun. Os bydd raid ei berswadio neu ei atal rhag gyrru, bydd angen gwneud hynny'n dringar iawn.
Pa bryd i roi'r gorau i yrru
Nid yw diagnosis o orffwylledd yn ddigon ynddo'i hun i atal rhywun rhag gyrru. Yr hyn sy'n bwysig, o safbwynt cyfreithiol a safbwynt ymarferol, yw a yw'r unigolyn yn gallu gyrru'n ddiogel o hyd. Bydd llawer o bobl â gorffwylledd yn cadw medrau a ddysgwyd ganddynt a gallant yrru'n ddiogel am gryn amser ar ôl cael diagnosis. Yn y pen draw, fodd bynnag, bydd eu cyflwr yn dirywio a bydd raid iddynt roi'r gorau i yrru. Bydd yr adeg pan fydd hynny'n digwydd yn wahanol ym mhob person sydd â gorffwylledd. Yn ôl y gyfraith, rhaid adolygu gallu rhywun i yrru'n rheolaidd ar sail unigol. Ceir ymchwil sy'n awgrymu fod pobl â gorffwylledd yn fwy tebygol o lawer o fod mewn damwain cerbyd ffordd na phobl eraill. Dylai rhywun a gafodd ddiagnosis o orffwylledd roi'r gorau i yrru gynted ag y bydd yn achosi lefel annerbyniol o uchel o berygl ar y ffyrdd.
Lleihau'r peryglon
Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â gorffwylledd sy'n parhau i yrru yn gwneud hynny'n gyfrifol ac yn cymryd camau i leihau'r perygl a achosa drwy yrru. Mae teithiau byr ar ffyrdd cyfarwydd ar adegau tawel o'r dydd yn golygu llai o broblemau ar y cyfan na siwrneiau hir, anghyfarwydd neu rai mewn traffig trwm. Mae'n bosibl y bydd pobl sy'n cymryd rhai mathau o feddyginiaeth, fel tawelyddion nos neu gyffuriau ar gyfer pryder, iselder ysbryd neu anhwylderau seiciatryddol eraill yn gweld effaith ar eu gallu i yrru. Mae'n werth gofyn i'ch meddyg teulu a oes modd gwneud rhywbeth ynghylch hynny.
Gofynion trwyddedu
Mae rhywun sydd â thrwydded yrru gyfredol neu sy'n dymuno ailymgeisio am drwydded newydd yn gorfod hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn ôl y gyfraith os rhoddir diagnosis o orffwylledd iddo. Dylid anfon hysbysiad am y diagnosis gyda rhif gyrrwr y person neu ei enw llawn a dyddiad geni at:
Grŵp Meddygol Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU
Mae peidio â hysbysu'r DVLA am ddiagnosis o orffwylledd yn dramgwydd troseddol sy'n dwyn cosb o hyd at £1,000. Os nad yw rhywun yn dymuno parhau i yrru dylai anfon ei drwydded yrru yn ôl i'r DVLA. Os yw rhywun sydd â gorffwylledd yn dymuno parhau i yrru dylai wneud cais am archwiliad meddygol. Bydd y DVLA wedyn yn anfon holiadur ato sy'n gofyn am ganiatâd i ymgynghorwyr meddygol y DVLA gael adroddiadau oddi wrth feddyg y person ac arbenigwyr. Gallai wedyn fod yn ofynnol iddo gael asesiad gyrru ffurfiol. Ar sail y wybodaeth feddygol y mae'n ei derbyn, gallai'r DVLA roi trwydded yrru newydd a fydd yn ddilys am gyfnod cyfyngedig o un flwyddyn. Os yw rhywun â gorffwylledd yn methu hysbysu'r DVLA am ei ddiagnosis ac yn parhau i yrru yn groes i gyngor meddyg, caiff meddyg y person hwnnw roi gwybod i'r DVLA os bydd dirywiad sylweddol yng nghyflwr y person. Caiff eraill hefyd, fel aelod o'r teulu, cymydog neu heddwas gysylltu â'r DVLA a gofyn iddo gynnal ymchwiliad meddygol os yw'n bryderus a yw'r person yn alluog i yrru. Os yw'r DVLA o'r farn nad yw rhywun yn alluog i barhau i yrru, ar sail yr adroddiadau meddygol y mae'n eu derbyn, bydd yn diddymu trwydded y person ac yn gofyn iddo ei ddychwelyd.
Yswiriant
Mae rhywun sy'n derbyn diagnosis o orffwylledd yn gorfod hysbysu'r cwmni sy'n darparu yswiriant car iddo ar unwaith. Bydd methu â datgelu'r wybodaeth hon yn peryglu dilysrwydd ei bolisi. Mae'n dramgwydd troseddol gyrru heb yswiriant trydydd parti o leiaf.
Anogaeth i roi'r gorau i yrru
Bydd rhai pobl sydd â gorffwylledd yn penderfynu'n gwbl annibynnol nad ydynt am barhau i yrru. Mae ar eraill angen ychydig neu lawer o anogaeth gan ofalwyr, aelodau o'r teulu neu ffrindiau. Mae'n bosibl y gallai meddyg y person helpu hefyd. Pan fyddwch yn annog rhywun i roi'r gorau i yrru, mae'n bwysig derbyn y gallai gael hynny'n beth anodd ei wneud. Efallai ei fod wedi dibynnu ar yrru fel ei brif ddull o symud o gwmpas am lawer o'i oes. Bydd rhoi'r gorau i yrru'n ymddangos yn arbennig o anodd os yw problemau corfforol yn ei gwneud yn anodd defnyddio cludiant cyhoeddus. Ac mewn rhai ardaloedd, mae toriadau mewn cludiant cyhoeddus yn golygu ei bod yn anodd iawn symud o gwmpas heb gar. Os mai'r person â gorffwylledd oedd yr unig yrrwr, bydd goblygiadau difrifol yn y penderfyniad i'r cymar. Nid yw'n hawdd. Os oes rhaid i rywun roi'r gorau i yrru, mae'n debyg y bydd yn teimlo'n anhapus ynghylch colli rhywfaint o'i annibyniaeth. Gallai fod o gymorth pe baech yn ei annog i fynd yn gyfrifol am ei drefniadau trafnidiaeth newydd, efallai drwy agor a rheoli ei gyfrif tacsi ei hun. Bydd rhai pobl â gorffwylledd yn ymateb i'r ddadl galed fod perygl rhy fawr bellach o gael damwain, lle y gallai ef, neu bobl eraill, gael ei anafu neu ei ladd hyd yn oed, iddo barhau i yrru.
Pan fydd perswâd yn methu
Yn achos rhai pobl sydd â gorffwylledd, ni thycia unrhyw berswâd i'w hargyhoeddi nad yw bellach yn ddiogel iddynt barhau i yrru. Yn y diwedd, wrth i'r clefyd ddatblygu, mae'n debyg y byddant yn anghofio pob dim am yrru. Fodd bynnag, nes byddant yn gwneud hynny, gallai gyrru ddod yn bwnc diflas iawn i bawb sy'n gysylltiedig. Os daw'n angenrheidiol i atal rhywun rhag gyrru, gallai fod yn werth ystyried y strategaethau canlynol sydd wedi gweithio i bobl eraill yn y sefyllfa hon:
- Awgrymwch y gallai cludiant cyhoeddus neu dacsi fod yn fwy cyfleus.
- Cuddiwch allweddi'r car.
- Cadwch y car mewn lle gwahanol fel na ellir ei weld.
- Rhwystrwch y car rhag symud drwy ofyn i fecanig dynnu'r brif lîd ddosbarthu a'i chadw o'r golwg yn yr injan.
- Awgrymwch mai chi a ddylai yrru pan ewch allan gyda'ch gilydd am fod arnoch angen ymarfer.
- Gwerthwch y car, ar ôl trefnu iddo dorri i lawr gyntaf efallai, fel bod angen mynd ag ef i'r garej.
- Os ydych yn gyrru, prynwch gar yn lle'r hen un sy'n fodel arall ac yn wahanol ei liw, na fydd y person â gorffwylledd yn ei adnabod.
Information sheet 439
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email:
enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone:
+44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.
Online forum
Visit Talking Point and take part in the discussion


Facebook
Twitter
Youtube
Flickr
RSS