Alzheimer's Society
Jump to: content Jump to: navigation   Accessibility Settings Site map Basket

Gwyliau a gofal tymor-byr

Bydd gwyliau rheolaidd yn eich galluogi i ymlacio a chael eich cefn atoch os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd.  Nid yw ond yn rhy hawdd meddwl y gallwch frwydro ymlaen, heb sylweddoli cymaint o flinder neu straen sydd arnoch.  Fe all gwyliau'ch helpu i gael yn ôl eich egni a'ch ymdeimlad o gysur a'ch galluogi i barhau i gynnig gofal.

Efallai y byddwch am fynd ar wyliau gyda'r person yr ydych yn gofalu amdano os ydyw yng nghyfnodau cynnar gorffwylledd neu os gallwch aros gyda phobl sy'n gefnogol iawn ac yn gallu ymgymryd â rhai o'ch cyfrifoldebau chi.  Fel arall, mae'n debyg mai'r peth gorau yw ceisio cymryd gwyliau ar wahân fel eich bod yn cael seibiant iawn.

Cofiwch fod y straen o deithio, amgylchedd anghyfarwydd a diffyg trefn reolaidd yn debygol o achosi mwy o ddryswch yn y person sydd â gorffwylledd a gallai'r straen arnoch chi fod yn fwy nag ydyw yn eich cartref eich hun.

Gwyliau gyda'r person

Os ewch ar wyliau gyda'ch perthynas, mae'n bwysig ichi sicrhau ei fod yn seibiant gwirioneddol i chi hefyd.

Os ydych yn treulio amser gyda ffrindiau neu aelodau o'ch teulu, bydd yn hwyluso pethau os gallwch siarad yn blwmp ac yn blaen ymlaen llaw.  Bydd pobl fel arfer yn llawer mwy parod i rannu cyfrifoldebau os ydynt yn deall yn iawn yr hyn y gallant ei wneud i helpu.

Os penderfynwch fynd i aros i westy neu le gwely a brecwast, mae'n amlwg mai doeth fyddai trafod y sefyllfa gyda'r rheolwr cyn ichi drefnu aros yno.  Mae angen ichi sicrhau fod yno awyrgylch tawel, cyfeillgar, fod modd darparu ar gyfer anghenien diet penodol ac anghenion eraill ac y bydd y staff yn deall os bydd mân broblemau'n codi.  Mae'n syniad da yn aml i drefnu gwyliau y tu allan i'r tymor pryd y mae'r staff yn debygol o fod â mwy o amser ac amynedd.

Holiday Care Service
Mae Holiday Care Service yn elusen gofrestredig sy'n darparu cyngor a gwybodaeth am wyliau i bobl sydd ag anghenion arbennig yn y Deyrnas Gyfunol.  Bydd yn gallu rhoi rhestrau i chi o enwau a chyfeiriadau nifer o gartrefi preswyl a nyrsio mewn gwahanol ranbarthau sy'n fodlon darparu ar gyfer pobl sydd â gorffwylledd a'u teuluoedd.  Yn rhai ohonynt ceir cyfleusterau arbennig ar gyfer pobl ag anableddau ac mae rhai yn cynnig rhywfaint o gymorth gyda gofal personol.  Fodd bynnag, nid yw Holiday Care Service yn ymweld â'r holl leoedd hyn.  Awgrymiadau i'w dilyn ydynt, nid argymhellion (cyfeiriad ar dudalen 4).

Winged Fellowship Trust
Mae'r Winged Fellowship Trust yn elusen sy'n darparu gwyliau i bobl sydd ag anableddau yn ei phum canolfan bwrpasol yn Lloegr.  Darperir gofal gan staff a gwirfoddolwyr cymwys.  Mae'r canolfannau'n rhedeg wythnosau Alzheimer arbennig, dan nawdd Cymdeithas Alzheimer, ar gyfer pobl sydd â gorffwylledd a'u gofalwyr.  Anogir gofalwyr i dreulio rhywfaint o amser ar eu pen eu hunain neu gyda gofalwyr eraill i wneud fel y dymunant.  Hysbysebir wythnosau Alzheimer yng nghylchlythyr misol y Gymdeithas i'w haelodau a gan y Winged Fellowship Trust (cyfeiriad ar dudalen 4).

RADAR
Mae RADAR (Y Gymdeithas Frenhinol dros Anabledd ac Ailsefydlu) yn cynnig gwybodaeth am wyliau gyda chefnogaeth nyrsio a gwyliau i bobl oedrannus ar eu pen eu hunain neu gyda'u teuluoedd mewn amrediad o westyau bach a mawr a chartrefi nyrsio.  Bydd llawer o'r rhain yn fodlon darparu ar gyfer pobl sydd â gorffwylledd (cyfeiriad ar dudalen 4).

Gwyliau ar eich pen eich hun

Fe all gofalu fod yn beth anodd a blinderus iawn ac mae'n bwysig i ofalwyr gael amser iddynt eu hunain i ystyried eu hanghenion.  Fodd bynnag, bydd llawer o ofalwyr yn teimlo'n euog heb fod angen am ddymuno cael seibiant ac am adael rhywun sydd â gorffwylledd, hyd yn oed am gyfnod byr.  Gallai fod o gymorth trafod y pryderon hyn gyda gweithiwr proffesiynol sy'n cydymdeimlo, gyda gofalwyr eraill neu gyda rhywun ar linellau cymorth Cymdeithas Alzheimer neu Counsel and Care (gweler tudalen 4).  Gyhyd â bod y person yn derbyn gofal da yn eich absenoldeb, dylai'r manteision i'ch iechyd a'ch morâl chi fod yn fwy o lawer na'r anfanteision yn sgil unrhyw fân anawsterau a allai godi oherwydd eich absenoldeb.

Gofalwch fod pwy bynnag sy'n gofalu am eich perthynas yn ymwybodol o unrhyw hoff a chas bethau penodol a hefyd am drefn arferol ei ddiwrnod.  Os yw'ch perthynas wedi dilyn rhyw arferion dietyddol, crefyddol neu ddiwylliannol, sicrhewch fod y rhain yn cael eu deall a'u parchu'n llwyr gan bwy bynnag sy'n gofalu amdano.  Gallai fod o gymorth ichi egluro'r rhesymau dros arferion o'r fath.

Gofal yn y Cartref
Efallai fod darparu gofal yn y cartref tra byddwch ar eich gwyliau yn ddewis mwy cysurlon a llai  trafferthus na symud y person â gorffwylledd i rywle arall.

Trefniadau anffurfiol
Hwyrach mai'r ateb hawsaf fydd trefnu i ffrind neu berthynas sy'n adnabod y person yn dda ddod a chymryd drosodd.  Os nad yw hyn yn bosibl ceisiwch ddod o hyd i rywun drwy holi am rywun sydd ag enw da.  Hwyrach y gallai'r derbynnydd yn y feddygfa leol eich rhoi mewn cysylltiad â nyrs wedi ymddeol, er enghraifft, neu rywun a weithiodd mewn cynllun gweini gofal, neu efallai y bydd cangen leol Cymdeithas Alzheimer yn gwybod am rywun addas.

Hysbysebu
Un dewis arall yw hysbysebu.  Gofalwch eich bod yn cyfweld yr ymgeisydd ac yn cysylltu â chanolwyr.  Mae'n well hysbysebu'n lleol, yn ôl pob tebyg, gan y byddwch yn cael mwy o gyfle i ddod i adnabod y person ymlaen llaw.

Asiantaethau
Bydd yn ddrutach dod o hyd i rywun drwy asiantaeth, yn ôl pob tebyg.  Fe geir adegau pryd y gallai hynny fod yn hwylusach, ond ystyriwch yn ofalus y math o ofal y mae arnoch ei angen.  Mae gofal nyrsio llawn-amser yn gostus tu hwnt ac mae'n bosibl nad yw'n angenrheidiol.  Gall yr Holiday Care Service a Counsel and Care (cyfeiriadau ar dudalen 4) ddarparu rhestrau o asiantaethau amrywiol.  Fodd bynnag, nid yw'r asiantaethau hyn wedi'u harcwhilio gan y mudiadau hyn ac nid argymhellion mohonynt.  Unwaith eto, cyfwelwch yr ymgeisydd yn bersonol a chysylltwch â'i ganolwyr.

Mae Counsel and Care wedi cynhyrchu ffeithlenni defnyddiol ar Help at home a What to look for in a home care agency (cyfeiriad ar dudalen 4).

Rhagofal
Bydd o gymorth os gall yr ymgeisydd gwrdd â'ch perthynas cyn ichi benderfynu.  Bydd hyn yn rhoi syniad eglurach i chi o'i agwedd tuag at y person sydd â gorffwylledd a pha mor dda y mae'n debygol o ofalu amdano.  Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant i sicrhau fod gennych yswiriant ar gyfer rhywun sy'n gweithio yn eich cartref rhag ofn y ceir damwain neu ddwyn, er enghraifft.  Holwch yr ymgeisydd hefyd ynghylch ei statws cyflogaeth. Os nad yw'n hunangyflogedig a chithau'n ei gyflogi'n breifat, mae'n bosibl y byddwch yn gyfrifol am ei dreth a'i yswiriant gwladol.  Gall y ganolfan gynghori leol roi cyngor i chi ar hynny, yn ôl pob tebyg.

Cyfarwyddiadau eglur
Os ydych yn cyflogi rhywun i ofalu am eich perthynas, bydd raid ichi roi ar ddeall beth yn union yr ydych yn ei ddisgwyl.  Rhowch gadarnhad mewn ysgrifen o'r swm yr ydych wedi cytuno i'w dalu, y dyddiadau pryd yr ydych yn dymuno iddo weithio a'r tasgau yr ydych am iddo'i wneud.  Ysgrifennwch nodiadau eglur ynghylch sut y mae pethau'n gweithio yn y t^y, beth y mae'ch perthynas yn gallu'i wneud a'r hyn y mae'n ei fwynhau ac â phwy y dylid cysylltu mewn argyfwng.

Pecyn gofal
Os nad oes ar eich perthynas angen sylw bob awr o'r dydd a'r nos, mae'n bosibl y gallech lunio pecyn gofal.  Gallai hynny gynnwys ffrindiau a chymdogion, gwahanol asiantaethau statudol a gwirfoddol ac ychydig oriau o ofal preifat efallai.  Os oes cynllun gweini gofal yn yr ardal, mae'n bosibl y gallai anfon rhywun am gyfnod byr bob diwrnod i ategu'r gofal a roddir.  Er mwyn cael gwybod a oes cynllun yn lleol, cysylltwch â'r Association of Crossroads Care Attendant Schemes (gweler tudalen 4).

Gofal oddi cartref

Llety gwyliau
Mae rhai gwestyau a ffurfiau eraill ar lety gwyliau'n gallu darparu ar gyfer pobl â gorffwylledd heb gydymaith.  Mae RADAR (gweler tudalen 4) yn gallu darparu gwybodaeth.  Awgrymiadau yw'r rhain, nid argymhellion a byddai'n ddoeth ichi siarad â'r rheolwr cyn ichi drefnu lle.

Mathau o ofal tymor-byr
Rhoddir sawl enw gwahanol ar gynlluniau tymor-byr sy'n darparu gofal i bobl mewn cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio ac ysbytai, fel gofal ysbaid, gofal seibiant a gofal gwyliau.  Nid yw bob amser yn hawdd trefnu gofal tymor-byr gan ei fod yn dibynnu ar gael rhywle ar adeg benodol.  Fodd bynnag, bydd rhai cartrefi ac ysbytai'n neilltuo lleoedd yn arbennig ar gyfer gofal tymor-byr fel y gall gofalwyr gynllunio ymlaen.

Os yw'ch perthynas yn gallu symud o gwmpas a heb fod yn rhy ddryslyd, mae cartref gofal preswyl yn debyg o fod yn addas.  Bydd y staff yn helpu fel arfer ag ymolchi, gwisgo a mynd i'r toiled, ac yn cynorthwyo ar adeg prydau bwyd ond nid ydynt yn darparu gofal nyrsio.  Bydd rhai cartrefi'n darparu ar gyfer pobl sy'n gwlychu.

Fodd bynnag, os yw'ch perthynas wedi drysu'n ddifrifol, neu'n ei chael yn anodd symud neu os yw'n baeddu ac yn gwlychu, ysbyty neu gartref nyrsio fydd yn darparu'r math o ofal y mae arno'i angen.  Mae taflen wybodaeth Cymdeithas Alzheimer ar Ofal preswyl a nyrsio yn egluro'r gwahanol fathau o ofal ac yn awgrymu cwestiynau y byddech efallai am eu gofyn i'r rheolwr mewn unrhyw gartref penodol (gweler tudalen 4).

Talu am ofal tymor-byr
Gwneud eich trefniadau eich hun: Os gall eich perthynas dalu am gost gofal seibiant ei hun, gallwch wneud eich trefniadau'ch hun gyda chartref gofal breswyl neu gartref nyrsio preifat, fel y bo'n briodol.  Mae cartrefi nyrsio'n ddrutach o lawer fel arfer na chartrefi gofal preswyl ond gall y ffioedd ar gyfer y ddau amrywio'n fawr felly syniad da fyddai cysylltu â sawl cartref.

Bydd swyddog cofrestru'r adran gwasanaethau cymdeithasol leol yn gallu rhoi rhestr i chi o gartrefi preswyl preifat a gwirfoddol yn eich ardal.  Fodd bynnag, ni fydd yn gallu gwneud argymhellion.  Gall uned archwilio a chofrestru'r awdurdod iechyd lleol roi rhestr i chi o gartrefi nyrsio cofrestredig preifat yn eich ardal.  Unwaith eto, nid argymhellion mo'r rhain.

Gall yr Holiday Care Service (manylion ar dudalen 4) ddarparu cyfeiriadau rhai cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio sy'n derbyn pobl sydd â gorffwylledd am gyfnodau byr.  Awgrymiadau yw'r rhain, nid argymhellion.

Trefnu gydag awdurdod lleol: Os oes angen gofal seibiant ar y person sydd â gorffwylledd ac os oes ganddo incwm isel ac ond ychydig o gynilion, gallai'r awdurdod lleol dalu'r cwbl neu ran o gost arhosiad mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio, fel y bo'n briodol.  Er mwyn cael gwybod a yw'n gymwys a pha ofal seibiant sydd ar gael, cysylltwch â'r adran gwasanaethau cymdeithasol leol.  Efallai y daw rywun o'r adran i'ch gweld er mwyn asesu incwm ac anghenion eich perthynas.

Mewn rhai achosion, gellir trefnu gofal seibiant rheolaidd, a elwir weithiau'n ofal ar y cyd neu ofal cyfnodol.

Gofal mewn ysbyty: Mewn rhai achosion mae'n bosibl y bydd ysbyty lleol yn gallu darparu gofal tymor-byr, yn enwedig os yw'r person yng nghyfnodau olaf gorffwylledd.  Erbyn hyn bydd rhai geriatregyddion a seicogeriatregyddion yn trefnu cynlluniau gofal seibiant rheolaidd i helpu gofalwyr.  Holwch y meddyg teulu neu'r meddyg ymgynghorol am y rhain.  Ni chodir tâl am yr arhosiad mewn ysbyty ac ni thynnir y budd-daliadau fel arfer am gyfnod byr, er y gallai gofal tymor-byr rheolaidd, a elwir weithiau'n ofal ar y cyd neu ofal cyfnodol, gael effaith ar fudd-daliadau.  Holwch yr asiantaeth budd-daliadau leol neu'r ganolfan gynghori am hynny.  Ychydig iawn o gartrefi nyrsio NHS a geir bellach.

Cronfeydd elusennol: Os nad yw'r person sydd â gorffwylledd yn gymwys i dderbyn cymorth incwm neu os nad yw hynny'n ddigon i dalu am y ffioedd ar gyfer gwyliau neu ofal seibiant, fe allai fod yn bosibl cael cyfraniad tuag at y gost oddi wrth elusennau.  Bydd rhai elusennau'n cyfrannu hefyd at gost gwyliau i ofalwr, un ai gyda'r person neu ar ei ben ei hun.  Mae'n bosibl y bydd arian ar gael oddi wrth elusennau i dalu am rywfaint o gost y gofal llawn-amser neu ran-amser yn y cartref.

Gall Counsel and Care, Holiday Care Service a RADAR (manylion isod) roi cyngor ar elusennau y gellid cysylltu â hwy.  Mae'n bosibl y cewch awgrymiadau am elusennau addas gan y gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd, canolfannau cynghori a rheolwyr banc.

Bydd Cymdeithas Alzheimer yn dyfarnu grantiau o'i Chronfa Ofalu at ofal argyfwng i rai y mae arnynt angen seibiant ar frys, ymysg pethau eraill.  Gellir cael ffurflenni cais oddi wrth y Gymdeithas (y cyfeiriad isod).

Mae amryw o gyfeirlyfrau ar gael yn y prif lyfrgelloedd sy'n rhoi enwau a chyfeiriadau elusennau.  Arweiniad ar grantiau i unigolion mewn angen (manylion isod) yw'r un mwyaf defnyddiol i'ch dibenion chi.

Bydd ar bob elusen angen manylion am sefyllfa ariannol yr ymgeisydd a sicrwydd ei fod eisoes yn derbyn yr holl fudd-daliadau statudol priodol.  Fel arfer byddant yn gofyn am lythyr cefnogi gan drydydd person fel ymwelydd iechyd neu weithiwr mewn canolfan gynghori.  Gallai'ch meddyg teulu ysgrifennu llythyr o'r fath ond fe allai godi tâl am y gwasanaeth.

Cyfeiriadau defnyddiol

Age Concern England, Astral House, 1268 London Road, Llundain SW16 4ER.  Ffoniwch y llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0800 009966 (ar agor bob diwrnod 7am-7pm).

Cymdeithas Alzheimer, Gordon House, 10 Greencoat Place, Llundain SW1P 1PH.  Llinell gymorth Alzheimer: 0845 300 0336 (yn ystod yr wythnos 8am-6pm).

Association of Crossroads Care Attendant Schemes, 10 Regent Place, Rugby CV21 2PN. Ffôn 01788 573653.

Counsel and Care, Twyman House, 16 Bonny Street, Llundain NW1 9PG.  Llinell gymorth: 0845 300 7585 (yn ystod yr wythnos 10.30am-4pm).  Gweinyddwyr: 0171 485 1550.

Holiday Care Service, 2nd Floor, Imperial Buildings, Victoria Road, Horley, Surrey RH6 7PZ.  Ffôn 01293 774535.

RADAR (Y Gymdeithas Frenhinol dros Anabledd ac Ailsefydlu), Unit 12, City Forum, 250 City Road, Llundain EC1V 8AF.  Ffôn 0171 250 3222.

Winged Fellowship Trust, Angel House, 20-32 Pentonville Road, Llundain N1 9XD.  Ffôn 0171 833 2594.

Cyhoeddiadau defnyddiol

A guide to grants for individuals in need, a gyhoeddir gan Directory of Social Change, 124 Stephenson Way, Llundain NW1 2DP.  Ffôn 0171 209 4949.

Financial guide, a gyhoeddir gan Holiday Care Service (cyfeiriad uchod).  Ar gael am ddim os anfonir gwerth £1 o stampiau i dalu am weinyddu a phostio.

Help at home, factsheet no. 12, Counsel and Care (cyfeiriad uchod).  Un copi am ddim.

Gofal preswyl a nyrsio, taflen wybodaeth, a gyhoeddir gan Gymdeithas Alzheimer (cyfeiriad uchod).  Anfonwch amlen fawr a'ch cyfeiriad a stamp arni.

Specialised accommodation, holiday fact pack 3, a gyhoeddir gan RADAR (gweler uchod), a'i bris yn £2.

What to look for in a home care agency, factsheet no. 13, Counsel and Care (cyfeiriad uchod).  Un copi am ddim.

Mae Cymdeithas Alzheimer yn cyhoeddi amrediad eang o daflenni gwybodaeth.  Rhai o'r taflenni yw Beth yw gorffwylledd?, Budd-daliadau lles a Gwasanaethau: Pwy all helpu?  Mae rhestr o'r cyhoeddiadau ar gael yn rhad ac am ddim.

Cymdeithas Alzheimer, Devon House, 58 St. Katherine's Way, London, E1W 1JX. Ffôn 020 7423 3500.  Ffacs 020 7423 3501.
E-bost info@alzheimers.org.uk  Gwefan alzheimers.org.uk  Elusen Gofrestredig Rhif 296645.  Cwmni Cyfyngedig drwy Warant a Gofrestrwyd yn Lloegr Rhif 2115499

Last updated: October 1998

Contact the Society

Telephone:
+44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.