Diagnosis a chefnogaeth
Os ydych chi'n agos at rywun sy'n teimlo'n ddryslyd, aflonydd neu'n anghofus, efallai yr hoffech awgrymu bod y person yn mynd i weld eu meddyg teulu. Efallai yr hoffent fynd gyda hwy i weld y meddyg.
Mae 'dementia' yn disgrifio grŵp o symptomau a achosir gan effaith gorfforol clefyd neu anaf i'r ymennydd. Ceir nifer o wahanol gyflyrau sy'n arwain at ddementia, gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd fasgwlar (gan gynnwys strôc) a dementia gyda chyrff Lewy.
Bydd pob person yn profi dementia yn eu ffordd eu hunain, ond gwelir y canlynol, fel arfer:
- Dirywiad mewn sgiliau rhesymu a chyfathrebu a chofio
- Colli'n raddol y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni gweithgareddau dyddiol
- Dryswch.
Pam cael diagnosis?
Mae'n bwysig cael diagnosis iawn o ddementia. Mae diagnosis yn hanfodol er mwyn:
- Diystyru cyflyrau eraill a all fod â symptomau tebyg i ddementia ac y gellir eu trin. Mae'r rhain yn cynnwys iselder, haint ar y frest ac yn yr wrin, rhwymedd difrifol, diffyg fitaminau a diffyg yn y thyroid a thiwmor ar yr ymennydd.
- Diystyru unrhyw beth arall a allai achosi dryswch, megis nam ar y golwg neu'r clyw, newidiadau emosiynol a gofidiau, megis symud neu brofedigaeth, neu sgil effeithiau cyffuriau penodol neu gyfuniad o gyffuriau.
- Cael gafael ar gyngor, gwybodaeth a chefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol, asiantaethau gwirfoddol a grwpiau cymorth.
- Caniatáu i'r person â dementia gynllunio a gwneud trefniadau ar gyfer y dyfodol.
Mae'n dod yn fwyfwy pwysig gwybod pa fath o ddementia ydyw wrth i gyffuriau ar gyfer trin gwahanol gyflyrau ddod ar gael. Er enghraifft, mae cyffuriau eisoes ar gael i drin rhai pobl sydd â chlefyd Alzheimer. Nid yw'r cyffuriau hyn yn effeithiol wrth drin clefyd Pick, ffurf arall ar ddementia, a gallant, mewn gwirionedd, waethygu symptomau . Darllenwch daflen wybodaeth y Gymdeithas Drug treatments for Alzheimer's disease - Aricept, Exelon, Reminyl and Ebixa i gael rhagor o wybodaeth.
Gwneud diagnosis
Yn aml iawn, mae gwneud diagnosis o ddementia yn anodd, yn enwedig yn y camau cynnar. Efallai mai dim ond trwy biopsi ar yr ymennydd mewn achosion prin iawn, neu drwy bost-mortem ar ôl i berson farw, y gellir gwneud diagnosis penodol o'r hyn sydd wedi'i achosi. Mae'r amser a gymerir i wneud diagnosis yn amrywio. Os bydd angen sganiau ac archwiliadau eraill, gallai gymryd rhwng pedair a deuddeg wythnos, yn dibynnu ar restrau aros. Os bydd y person yng nghamau cynnar dementia, efallai y bydd angen monitro am gyfnod o chwech i 12 mis cyn y gellir gwneud diagnosis.
Y cam cyntaf - asesiad gan feddyg teulu
Dylech ymgynghori â'r meddyg teulu yn gyntaf os ydych yn pryderu am rywun sy'n agos atoch chi.
Yn y cartref neu'r feddygfa
Gallech weld y meddyg teulu yn eu meddygfa neu efallai y byddai'n well ganddynt ymweld â'r cartref. Os amheuir bod dementia ar y person, mae'n haws yn aml iawn asesu ac arsylwi ymddygiad y person yn y cartref. Daw'n gliriach wedyn beth yn union yw'r problemau.
Gwybodaeth gefndir
Gallwch ddisgwyl i'r meddyg teulu dreulio amser yn siarad gyda chi a'r person yr ydych yn bryderus yn ei gylch, i geisio sefydlu beth yw'r symptomau. Bydd y meddyg teulu yn edrych ar hanes meddygol y person y maent yn ei archwilio a hanes meddygol aelodau eraill y teulu.
Profion ac archwiliadau corfforol
Fel arfer bydd y meddyg teulu'n cynnal archwiliad corfforol ac efallai y bydd yn cynnal nifer o brofion, megis profion gwaed ac wrin, er mwyn gweld a oes cyflyrau eraill a all fod yn achosi'r dryswch.
Profion ar y meddwl
Efallai y bydd y meddyg teulu'n gofyn cyfres o gwestiynau sydd wedi'u dyfeisio i brofi'r meddwl a'r cof.
Y gallu i ymdopi
Bydd y meddyg teulu yn gallu trefnu cael rhai gwasanaethau megis nyrsio cymunedol. Os oes posibilrwydd y gwneir diagnosis o ddementia neu os ydych yn cael trafferth ymdopi, gall y meddyg teulu eich cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol.
Cyfathrebu
Ar ddiwedd yr asesiad, dylai'r meddyg teulu gyflwyno eu canfyddiadau mewn modd priodol a thrafod pa gamau y dylid eu cymryd. Efallai y byddant yn teimlo eu bod yn gallu gwneud diagnosis neu efallai y byddant am aros rhywfaint er mwyn bod yn sicr. Mewn rhai achosion, efallai y byddant am gyfeirio'r person at arbenigwr er mwyn cael asesiad llawnach.
Cyfeirio at arbenigwr
Y meddyg teulu fel arfer a fydd yn cyfeirio rhywun at arbenigwr. Mae gennych hawl gofyn am gyfeirio achos at arbenigwr er mwyn cael ail farn neu er mwyn cael cefnogaeth a mynediad at wasanaethau a allai ddeillio o gyfeirio o'r math. Mynnwch gael cyfeirio eich achos os ydych yn teimlo y byddai o fudd ac nad yw'r meddyg teulu yn ei awgrymu.
Cyfeirio arbenigol
Bydd gan ymgynghorydd meddygol wybodaeth a phrofiad mwy arbenigol o ddementia a bydd yn gallu cynnal archwiliadau mwy arbenigol, megis sganiau ar yr ymennydd.
Bydd eich meddyg teulu yn cyfeirio'r person sy'n cael diagnosis at ymgynghorydd meddygol sydd ag arbenigedd penodol. Efallai y bydd yr arbenigedd yn dibynnu ar oed y person dan sylw, eu symptomau a'r hyn sydd ar gael yn eich ardal benodol.
Mathau o ymgynghorwyr meddygol
Niwrolegydd
Meddyg sy'n arbenigo mewn anhwylderau ar yr ymennydd a'r llwybrau nerfol yw niwrolegydd. Mae gan rai niwrolegwyr brofiad penodol o wneud diagnosis o ddementia.
Geriatregydd
Mae geriatregydd yn arbenigo yn y salwch corfforol a'r anableddau sy'n gysylltiedig â henaint ac yn y gofal ar gyfer pobl hŷn. Os yw'r person sy'n cael diagnosis wedi cyrraedd oed ymddeol, mae'n bosib y cânt eu cyfeirio at geriatregydd i weld a yw eu symptomau'n deillio o salwch corfforol neu i weld a ydynt yn dioddef o salwch corfforol yn ogystal â dementia.
Seiciatrydd oedolion cyffredinol
Mae seiciatrydd oedolion cyffredinol yn arbenigo mewn rhoi diagnosis a thrin amrywiol broblemau iechyd meddwl. Efallai y caiff person iau ei gyfeirio at seiciatrydd er mwyn helpu'r diagnosis.
Seiciatrydd yr henoed
Seiciatrydd sydd wedi arbenigo ymhellach mewn problemau iechyd meddwl pobl h^yn, gan gynnwys dementia, yw seiciatrydd yr henoed. Fe'u gelwir weithiau yn seicogeriatregydd. Mae'n bosibl y byddant weithiau'n cynnig cymorth hefyd i bobl iau â dementia.
Y tîm arbenigol
Fel arfer, mae'r ymgynghorydd meddygol yn gweithio gyda nifer o feddygon cwbl gymwysedig sydd ar wahanol gamau mewn hyfforddiant pellach yn yr arbenigedd hwnnw. Er na fyddwch efallai'n gweld yr ymgynghorydd meddygol bob amser, mae ef neu hi'n gyfrifol am eich achos a byddant yn ei drafod gyda'r meddyg dan sylw.
Mae'r ymgynghorydd meddygol yn gweithio fel arfer hefyd gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys nyrsys, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cymdeithasol. Bydd pob un ohonynt yn cyfrannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cyngor.
Asesiad
Lleoliad
Gellir cynnal asesiad yn y cartref, mewn adran cleifion allanol, mewn ysbyty dydd dros sawl wythnos neu, ambell waith, fel claf mewn ysbyty.
Gwybodaeth gefndir
Fel gyda'r meddyg teulu, mae asesiad yn debygol o gynnwys treulio amser yn siarad gyda'r person sy'n cael diagnosis a'r sawl sy'n agos atynt.
Profion ac archwiliadau corfforol
Gwneir archwiliad corfforol a/neu brofion, os nad ydynt wedi'u cynnal eisoes gan y meddyg teulu.
Profi'r cof
Efallai y bydd y person sy'n cael diagnosis yn gweld seicolegydd er mwyn cael asesiad manwl. Mae'n bosib y treulir amser yn arsylwi eu hymddygiad ac yn asesu eu gallu i ymdopi.
Sganiau
Mae'n bosib y rhoddir sgan ar yr ymennydd i'r person yr amheuir bod dementia arno. Gall sgan ar yr ymennydd ganfod cyflyrau megis strôcs, tiwmor ar yr ymennydd a hydroceffalws (hylif yn cronni y tu mewn i'r ymennydd).
- Ceir sawl math o sgan ar yr ymennydd:
Mae sganiau CT neu CAT (tomograffeg echelog gyfrifiadurol) yn ffordd o dynnu llun o'r ymennydd gan ddefnyddio pelydrau-X a chyfrifiadur. - Mae sganiau MRI (delweddu cyseinedd magnetig) hefyd yn defnyddio cyfrifiadur i greu delwedd o'r ymennydd ond, yn lle pelydrau-X, maent yn defnyddio signalau radio a gynhyrchir gan y corff wrth ymateb i effeithiau magnet cryf iawn sydd yn y sganiwr.
- Mae sganiau SPECT (tomograffeg allyriad ffoton gyfrifiadurol) yn edrych ar sut mae'r gwaed yn llifo drwy'r ymennydd, yn hytrach nag ar strwythur yr ymennydd.
Ar ôl yr asesiad, bydd yr ymgynghorydd meddygol yn anfon adroddiad at y meddyg teulu. Mae'n bosib y bydd sganiau CT a MRI yn dangos bod yr ymennydd yn crebachu (crebachiad) a bydd sganiau SPECT a PET yn dangos y rhannau lle nad yw'r ymennydd yn gweithio; mae patrwm y newidiadau hyn yn helpu i weld beth sy'n achosi'r dementia. Os bydd sgan yn dangos nad oes newidiadau annisgwyl ar yr ymennydd, ni ddiystyrir cyflyrau megis clefyd Alzheimer oherwydd, yng nghamau cyntaf y clefyd, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y newidiadau hyn a'r newidiadau a ddaw yn sgil heneiddio arferol. Mae'n bosib y bydd yr ymgynghorydd meddygol yn trafod eu canfyddiadau neu efallai y bydd yn cyfeirio'r person yn ôl at y meddyg teulu er mwyn cael y wybodaeth hon. Mewn rhai achosion mae'n bosib y bydd yr ymgynghorydd meddygol am weld y person eto ar ôl ychydig fisoedd i arsylwi unrhyw newidiadau cyn gwneud diagnosis.
Sut i gael y budd mwyaf o ymgynghoriad
Os ydych chi'n gefn i'r person sy'n cael diagnosis, gallai fod yn fuddiol gwneud y canlynol:
- Ysgrifennu unrhyw gwestiynau neu nodi arwyddion sy'n peri gofid ymlaen llaw er mwyn i chi holi'r meddyg teulu neu'r arbenigwr. Mae'n anodd cofio popeth rydych eisiau ei ddweud pan fyddwch chi yno.
- Ysgrifennu unrhyw bwyntiau pwysig y mae'r meddyg yn ei ddweud yn ystod yr ymgynghoriad meddygol.
- Gofyn i feddyg, neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall, esbonio geiriau neu ymadroddion os nad ydych yn eu deall.
- Gofyn i feddyg ysgrifennu unrhyw dermau meddygol, yn enwedig os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.
Esbonio'r diagnosis
Bydd barn meddygon yn amrywio ynghylch beth i'w ddweud wrth eu cleifion am ddiagnosis o ddementia. Efallai y byddant yn:
- Teimlo bod gan gleifion sy'n gallu deall yr hawl i wybod, yn enwedig os yw hyn yn rhoi cyfle iddynt roi trefn ar eu pethau.
- Teimlo y bydd gwybod bod dementia arnynt yn ormod i'r person ymdopi â hynny.
- Defnyddio term megis 'problemau cofio' os ydynt yn teimlo bod hyn yn haws ei ddeall neu'n fwy priodol.
- Barod i roi diagnosis o ddementia, ond dim ond os bydd y claf yn gofyn neu'n ymddangos fel petai'n dymuno cael gwybod.
Bydd y rhan fwyaf o feddygon yn rhoi gwybod am y diagnosis o ddementia neu'r posibilrwydd o ddementia i'r sawl sy'n agos at y person dan sylw. Mewn rhai achosion, mae'n bosib mai'r perthnasau neu'r ffrindiau fydd yn gorfod penderfynu p'un ai i ddweud wrth y person ai peidio bod dementia arnynt. Mewn achos o'r fath, mae'n debygol y bydd y gofalwr yn cael ei arwain gan y math o berthynas sydd rhyngddo ef/rhyngddi hi a'r person, a'r hyn, yn eu tyb hwy, y byddent am wybod.
Os ydych yn teimlo bod y meddyg yn osgoi'r mater, dylech fynnu eu bod yn esbonio.
Asesiad parhaus
Y meddyg teulu:
- Dylai drefnu i weld y person â dementia o bryd i'w gilydd er mwyn asesu newidiadau a thrafod unrhyw broblemau.
- Mae'n bosib y bydd yn cyfeirio'r person â dementia at arbenigwr i gael cymorth i asesu'r newidiadau ac i gael cyngor am ffyrdd o ymdopi ag anawsterau penodol.
- Mae'n gyfrifol am iechyd cyffredinol y person â dementia.
Fel arfer, bydd y meddyg teulu a'r arbenigwr yn yr ysbyty yn rhoi unrhyw gyffuriau ar y cyd ar gyfer clefyd Alzheimer. Bydd y trefniant yn dibynnu ar sefyllfa'r person, lle maent yn byw a pha feddyginiaeth y maent yn ei chymryd.
Ni ddylai gofalwyr fod ag ofn gofyn am gymorth gan eu meddyg teulu neu gan grwpiau cymorth lleol os ydynt yn teimlo bod angen cymorth arnynt. Mae taflen wybodaeth y Gymdeithas Next steps yn rhoi gwybodaeth ynghylch lle gall gofalwyr a phobl â dementia gael cymorth a chyngor pellach ar ôl i'r diagnosis gael ei wneud.
Taflen wybodaeth 426
Diweddarwyd ddiwethaf: Ionawr 2005
Adolygwyd ddiwethaf: Ionawr 2005
Contact the Society
Email:
enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone:
+44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.
Online forum
Visit Talking Point and take part in the discussion


Facebook
Twitter
Youtube
Flickr
RSS