Byw yn dda gyda dementia ar ôl diagnosis/ Living well with dementia after diagnosis
Gwasanaethau Cymorth Eraill
Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Health and Social Care
Gallwch gael rhifau ffôn defnyddiol a gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal, o wefan eich Bwrdd Iechyd lleol.
- Galw Iechyd Cymru
Mae gwybodaeth yn y Cyfeirlyfr Iechyd, Cymorth a Lles am y gwahanol grwpiau a gwasanaethau iechyd a lles sydd ar gael yn eich ardal ac yn genedlaethol fel ei gilydd. Gallwch gael cyngor ganddyn nhw a gwybodaeth am gyflyrau iechyd i'ch helpu i aros yn weithgar yn eich cymuned. www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk
- Iechyd Deintyddol
Ewch ymlaen i fynd at eich deintydd i gael archwiliadau rheolaidd o'ch dannedd, a chyngor ar atal problemau. Os nad oes deintydd gennych, efallai bydd gwasanaeth deintyddol cymunedol eich ardal yn gallu helpu. Chwiliwch am ei rif ffôn ar wefan Galw Iechyd Cymru. www.sigwales.org/?page_id=2386
- Cynllun Presgripsiwn Llyfrau Llywodraeth Cymru
Ymhlith y llyfrau sydd ar gael i'w benthyca mae rhai ar ddementia.wales.gov.uk/docs/dhss/publications/111130bookcy.pdf - Eich meddyginiaeth a chi - Mae eich fferyllydd lleol yno i'ch helpu
Holwch ynglŷn â'r moddion a'r tabledi rydych yn eu cymryd, am fod eu cymryd ar yr adegau cywir yn eu gwneud yn fwy effeithiol. Os ydych yn pryderu o gwbl, siaradwch â'ch fferyllydd. Holwch cyn prynu unrhyw fath arall o feddyginiaeth - fe allai tabledi eraill effeithio ar y ffordd mae'ch meddyginiaeth arferol yn gweithio. Am fwy o wybodaeth: www.ageuk.org.uk/cymru/health--wellbeing/medication www.nhsdirect.wales.nhs.uk/localservices/pharmacyfaq?locale=cv - Neurodem Cymru: y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) www.neurodemcymru.org wales.gov.uk/topics/health/research/nischr/?skip=1&lang=cy neu cysylltwch â b.ellis@bangor.ac.uk
Yma i fod yn gefn i chi / Here to support you
Gallwch gael gwybodaeth o wefan eich Awdurdod Lleol hefyd am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal.- Age Cymru
www.agecymru.org.uk 0800 169 65 65 - Agored Cymru, rhaglenni tystysgrif a chyrsiau eraill b.ellis@bangor.ac.uk Help ar-lein gan y mudiad Cyngor ar Bopeth www.adviceguide.org.uk/cy/wales.htm 08444 77 20 20
- Gofal a Thrwsio (Care & Repair Cymru)
www.cymru.careandrepair.org.uk 0300 111 3333 - Croesffyrdd - Gofalu am Ofalwyr. Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr
Swyddfeydd ym mhob rhan o Gymru. www.carers.org
- Llinell Gymorth Dementia Cymru
www.dementiahelpline.org.uk
Llinell gymorth sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol am ddim i unrhyw un sy'n gofalu am berson sy'n byw gyda dementia, ac i aelodau eu teuluoedd a'u ffrindiau.080 880 82235
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
www.olderpeoplewales.com/wl/Home.aspx 08442 640 670
- Parkinson's UK, cangen Cymru
www.parkinsons.org.uk/cymru 0808 800 0303
- Y Gymdeithas Strôc
www.stroke.org.uk 0303 3033 100
In this section
- Byw yn dda gyda dementia ar ôl diagnosis/ Living well with dementia after diagnosis
- Byw yn dda gyda dementia ar ol diagnosis/Living well with dementia after diagnosis
- Other support services
- You are here: Gwasanaethau Cymorth Eraill
Online forum
Visit Talking Point and take part in the discussions