Alzheimer's Society
Jump to: content Jump to: navigation   Accessibility Contact Us Mobile Shop

Go to Graphical version

 

Byw yn dda gyda dementia ar ôl diagnosis/ Living well with dementia after diagnosis

Byw yn dda gyda dementia ar ol diagnosis/Living well with dementia after diagnosis

Cymdeithas Alzheimer sydd wedi llunio'r pecyn, ar ôl cael grant oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'i Gweledigaeth Genedlaethol ar Ddementia, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella'r wybodaeth sydd ar gael am ddementia drwy greu pecynnau dwyieithog o wybodaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis, eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr. Roedd y broses yn golygu creu llinell gymorth bwrpasol i Gymru ac ehangu Cynllun Presgripsiwn Llyfrau Llywodraeth Cymru i gynnwys gofal dementia.

Bydd Rhan 1 o Fesur Iechyd Meddwl Cymru (2012) yn cychwyn ym mis Hydref 2012. Bydd yn golygu cyflwyno Gwasanaethau Cymorth Lleol a Sylfaenol mewn Iechyd Meddwl a fydd yn cynnig cymorth i bobl o bob oed, gan gynnwys y rheini sydd â nam ar eu cof. Bydd y gwasanaethau yma ar gael ochr yn ochr â gofal sylfaenol gan feddygon teulu.

Diagnosis

Rhagor o wybodaeth

Efallai bydd cael diagnosis o ddementia'n sioc i'r system. Efallai byddwch angen cysur a chefnogaeth, gan ei bod hi'n bosibl gwneud llawer yn ystod y cyfnod cynnar a fydd yn helpu i wneud eich bywyd yn haws ac yn fwy pleserus.

Mae'r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio. Mae wedi'i rannu'n adrannau sy'n eich cyfeirio at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau lleol ac asiantaethau eraill o'r trydydd sector sy'n gallu bod yn gefn i chi.

Gwasanaethau cymorth sydd ar gael


In this section